Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lucius Cornelius Sulla"

Ychwanegwyd 21 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Roedd Sulla i fod i arwain byddin Rufeinig i'r dwyrain i ymladd yn erbyn [[Mithridates VI, brenin Pontus]], ond roedd Marius, er ei fod bellach yn heneiddio, yn dymuno cymeryd ei le. Bu ymladd yn Rhufain, a gadawodd Sulla y ddinas a ffoi at ei filwyr. Dychwelodd Sulla i Rufain gyda chwe lleng, a chipio grym. Ffodd Marius i Ogledd Affrica, ac yng ngwanwyn 87 CC glaniodd Sulla yn Dyrrachium i ddechrau ymgyrch yn erbyn Mithridates. Cipiodd ddinas [[Athen]] ac yn [[86 CC]] enillodd frwydr fawr dros Archelaus, cadfridog Mithridates, ym [[Brwydr Chaeronea (86 CC)|Mrwydr Chaeronea]], yna bu'n fuddugoliaethus eto ym [[Brwydr Orchomenos|Mrwydr Orchomenos]].
 
Wedi i Sulla adael am y dwyrain, roedd Marius a [[Lucius Cornelius Cinna]] wedi cipio grym yn Rhufain, er i Marius farw yn fuan wedyn. Gwnaeth Sulla heddwch a Mithridates a dychwelyd i Rufain, lle gorchfygodd gefnogwyr Marius. Ar ddechrau [[81 CC]], apwyntiwyd Sulla i swydd ''dictator'' gan [[Senedd Rhufain]], gan ddod yn feistr ar y ddinas a holl diriogaethau Rhufain heblaw [[Sbaen]], lle roedd [[Quintus Sertorius]] wedi cipio grym. Dywedir i Sulla ddienyddio tua 1,500 o uchelwyr Rhufain, ac i tua 9,000 o bobl farw i gyd. Un o'r rhai a orfodwyd i ffoi o'r ddinas oedd [[Iŵl Cesar]]; roedd gwraig Marius yn fodryb iddo.
 
Bu Sulla yn gyfrifol am nifer o newidiadau, gan gynyddu maint y senedd o 300 aelod i 600, a'i gwneud yn amhosibl i neb oedd wedi dal swydd tribwn i ddal unrhyw swydd arall. Wedi bod mewn grym am ddwy flynedd, ymddiswyddodd Sulla fel ''dictator'' yn [[79 CC]] er mawr syndod i bawb, ac aeth i fyw i'w fila ger [[Pozzuoli|Puteoli]]. Bu farw yno y flwyddyn ddilynol.
37,236

golygiad