Alegori: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up using AWB
Llinell 5:
:''llyuyr mawr o aligoris ar lyure yr ysguthyr laan.''
 
ac yna yng nghyfieithiad 1620 o Epistol Paul at y Galatiaid (1620 Gal iv. 24):
 
:''Yr hyn bethau ydynt mewn alegori (W. Salesbury: KLl xixb, ar ddamec; TN 282a, Wrth y petheu hyn y dyellir peth arall; 1588 Gal iv. 24, a arwyddocânt beth arall).''
Llinell 14:
[[Delwedd:Twm o'r Nant (Ceinion Llenyddiaeth Gymreig).JPG|bawd|280px|Twm o'r Nant (Thomas Edwards). Engrafiad o'r 19eg ganrif seiliedig ar bortread o ddiwedd y 18fed ganrif o'r dramodydd enwog. Cyhoeddwyd yn Ceinion Llenyddiaeth Gymreig gan Owen Jones (1876).]]
 
Lluniodd [[John Bunyan]] hanes [[Taith y Pererin|pererindod y Cristion]] drwy 'anialwch' y byd hwn, ac yn hytrach na galw'r pererin yn 'John', galwodd ef yn 'Gristion'. Rhoddodd iddo gyfaill ffyddlon, ac yn lle ei alw'n 'William', galwodd ef yn 'Ffyddlon'. Pan ddaw at ffair sy'n cynrychioli gwagedd a chors sy'n cynrychioli anobaith, fe'i gelwir yn 'Ffair Wagedd' (''Vanity Fair'') a 'Chors Anobaith' (''the Slough of Despond'')... ac felly ymlaen.
 
Wrth gyflwyno'i gerdd hir 'Bywyd a Marwolaeth Theomemphus', mynnodd [[William Williams (Pantycelyn)]]: 'Ni ellir ei alw yn alegori, am fod y personau yn wir ddynion'. Ond anodd meddwl nad oes dyled i'r traddodiad alegorïaidd yn enw Theomemphus (Ceisiwr Duw), ac enwau cymeriadau eraill megis Aletheius (Gwirionedd), Seducus (Hud-ddenwr), Abasis (Disylfaen), Philomede (Hoff o Fwlio) ayb. Nid yw hyn yn eu rhwystro rhag bod yn 'wir ddynion', mwy nag y rhwystrodd gymeriadau Bunyan.