Anghydffurfiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B clean up, replaced: 19eg ganrif19g, 16eg ganrif16g using AWB
Llinell 1:
'''Anghydffurfiaeth''' neu '''ymneilltuaeth''' yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio [[Cristnogaeth|Cristnogion]] sy'n gwrthod cydymffurfio ag athrawiaeth ac arferion [[Eglwys]] Sefydledig.
 
Daeth Anghydffurfiaeth i fod yn sgil y [[Diwygiad Protestannaidd]] yn y [[16eg ganrif16g]]. Yng ngwledydd [[Prydain]] arferir yr enw ar gyfer safle ac athrawiaeth enwadau fel y [[Methodistiaid]] ([[Methodistiaid Calfinaidd|Calfinaidd]] a [[Wesleiaid|Wesleaidd]]), yr [[Annibynwyr]] a'r [[Bedyddwyr]], ynghyd â rhai o'r enwadau llai [[uniongred]] megis y [[Crynwyr]] a'r [[Undodiaid]].
 
Gorwedd Anghydffurfiaeth rhwng [[Yr Eglwys Gatholig|Pabyddiaeth]] ar y naill law a [[Piwritaniaeth|Phiwritaniaeth]] ar y llall. Cred yr Anghydffurfwyr fod yr Eglwys Sefydledig wedi gwyro oddi ar lwybr [[yr Eglwys Fore]]. Seiliant eu hawdurdod ar y [[Beibl]].
Llinell 9:
Y [[Cymru|Cymro]] Anghydffurfiol cyntaf o bwys oedd [[John Penry]], a ferthyrwyd ym [[1593]]. Yr eglwys Anghydffurfiol gyntaf yn y wlad oedd honno yn [[Llanfaches]] ([[Sir Fynwy]]) a sefydlwyd gan Annibynwyr a Bedyddwyr ym [[1639]].
 
Ym myd gwleidyddiaeth tueddai'r Anghydffurfwyr cynnar i osgoi ymyrryd yn uniongyrchol yn y byd a'i bethau (heblaw am faterion eglwysig). Am gyfnod gellid dweud bod Ymneilltuaeth Gymreig wedi bod yn geidwadol ond erbyn y [[19eg ganrif19g]] dechreuai Ymneilltuwyr chwarae rhan gynyddol bwysig yng ngwleidyddiaeth y wlad ac erbyn ail hanner y ganrif honno tueddai'r achos Ymneilltuol i fod ynghlwm wrth [[Radicaliaeth]] a'r galw am [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru|Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]] a [[hunanlywodraeth]] (neu Ymreolaeth) i Gymru. Un o ganlyniadau hyn oedd ffurfio mudiadau radicalaidd fel [[Cymru Fydd]] a chwyddo'r gefnogaeth i [[Rhyddfrydiaeth|Ryddfrydiaeth]].
 
Roedd cyfraniad awduron Anghydffurfiol i [[Llenyddiaeth Gymraeg|lenyddiaeth Gymraeg]] yn sylweddol iawn, ac er i'r enwadau dueddu i fod yn gul eu gorwelion llenyddol (yn erbyn y [[nofel]], er enghraifft), esgorodd Anghydffurfiaeth ar rai o lenorion pwysicaf y Gymraeg, fel [[Morgan Llwyd]], [[Ann Griffiths]], [[William Williams Pantycelyn]], [[Daniel Owen]] ac [[Owen Morgan Edwards]].