Roedd yr ymgecru rhwng dilynwyr y ddwy athroniaeth hyn yn arbennig o ffyrnig yn ystod yr [[17eg ganrif17g]] yn yr Iseldiroedd. Wedi marw Arminius yn 1609 arweinwyd ei ddisgyblion gan [[Simon Episcopius]] a dechreuwyd eu galw yn ''Wrthdystwyr'' (''Remonstrants''). Methodd y ddwy blaid gytuno ac yn [[1618]], yn [[Synod Dort]], cafodd dysgeidiaeth yr Arminiaid ei chondemnio'n swyddogol gan y sefydliad eglwysig Protestanaidd yn y Nederlands a chafodd nifer ohonynt eu carcharu mewn canlyniad.
==Cymru a Lloegr==
Ymledodd yr anghydfod i [[Cymru|Gymru]] a [[Lloegr]] a pharhaodd yn asgen gynnen hyd y [[19eg ganrif19g]]. Pregethai [[John Wesley]] ([[1703]]-[[1791]]) Arminiaeth ac fe'i wrthwynebwyd gan [[George Whitefield]] ([[1714]]-[[1770]]) ar ran y Calfiniaid. Gwelwyd yr ymgecru ar ei waethaf yng Nghymru rhwng y [[Methodist]]iaid a'r sectau [[Ymneilltuaeth|ymneilltuol]] eraill, yn arbennig [[y Wesleiaid]].