British and Colonial Kinematograph Company: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3402325 (translate me)
B →‎top: clean up using AWB
Llinell 1:
Cwmni ffilm Prydeinig a ffurfiwyd yn [[1909]] oedd y '''British and Colonial Kinematograph Company'''. Yn ogystal â'r enw llawn roedd yn gwneud ffilmiau dan yr enwau '''B&C''', '''B and C''', '''B & C Film''' a '''British and Colonial Films''' yn ogystal.
 
Rhwng 1909 a [[1924]] pan alwyd y credydwyr i mewn, cynhyrchwyd 317 o ffilmiau di-sain gan y cwmni. Sefydlwyd B&C gan [[A.H. Bloomfield]] a [[J.B. McDowell]]. Ym mlynyddoedd cynnar y cwmni roedd yn enwog am ei ffilmiau nodwedd, yn arbennig y gyfres "Lieutenant Daring" gyda [[Percy Morgan]] yn cymryd y brif ran. Roedd gan Bloomfield a McDowell stiwdios yn Newstead House, yn Nwyrain [[Finchley]], [[Llundain]].
 
Erbyn [[1912]] roeddynt yn saethu ffilmiau hirach ac yn defnyddio llawer o ffilm ''footage'' a saethwyd ar leoliad, rhai ohonynt wedi saethu gan [[Fred Burlingham]] a adawodd y cwmni yn [[1914]] i ffurfio ei gwmni ei hun ([[Burlingham Films]]) ar ôl i B&C symud i stiwdios newydd yn [[Walthamstow]] yn [[1913]].