Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bwlio"

Lleihawyd o 15 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
clean up using AWB
B (Bot: Migrating 2 langlinks, now provided by Wikidata on d:q240126)
B (clean up using AWB)
Mewn iaith lafar, yn aml mae bwlio yn disgrifio modd o erlid a gaiff ei orfodi ar y dioddefwr gan berson sydd â mwy o bŵer corfforol a/neu bŵer cymdeithasol. Weithiau cyfeirir at y person sy'n cael ei fwlio fel y targed. Gall yr erlid fod yn eiriol, corfforol a / neu'n emosiynol. Weithiau bydd bwli yn pigo ar bobl mwy neu lai na hwy o ran maint. Mae nifer o resymau pam y mae'r bwli yn anafu pobl yn eiriol ac yn gorfforol.<ref>[http://www.worldcat.org/oclc/677299&referer=brief_results The anatomy of human destructiveness.] Eric Fromm. Adalwyd 28-03-2009</ref><ref>[http://www.worldcat.org/oclc/1667130&referer=brief_results Man against himself] Karl A Menninger. Adalwyd 29-03-2009</ref> Un o'r rhesymau hyn yw am fod y bwli ei hun wedi dioddef bwlio (e.e. plentyn a gaiff ei gamdrin yn y cartref, neu oedolion sy'n bwlio sydd wedi cael eu trin yn wael gan eu cydweithwyr.
 
Diffinia'r ymchwilydd [[Norwy|Norwyeg]]eg Dan Olweus fwlio fel pan fo un person yn "exposed, repeatedly and over time, to negative actions on the part of one or more other persons." Diffinia gweithred negyddol fel "when a person intentionally inflicts injury or discomfort upon another person, through physical contact, through words or in other ways."<ref>Olweus.D [http://www.cobb.k12.ga.us/~preventionintervention/Bully/Definition%20of%20Bullying.pdf A Research Definition of Bullying] Adalwyd 28-03-2009</ref>
 
Gall bwlio ddigwydd mewn rhywun leoliad lle mae bodau dynol yng nghwmni ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys ysgolion, yr eglwys, y gweithle, yn y cartref ac yn y gymdogaeth. Mae hefyd yn ffactor gwthio cyffredin dros fudo. Gall fwlio fodoli rhwng grŵpiau cymdeithasol, dosbarthiadau cymdeithasol a hyd yn oed rhwng gwledydd.
Gall effeithiau bwlio fod yn ddifrifol neu hyd yn oed yn farwol. Dywedodd Mona O'Moore Ph. D o'r Ganolfan Gwrth-Fwlio, [[Coleg y Drindod, Dulyn]] ''"There is a growing body of research which indicates that individuals, whether child or adult who are persistently subjected to abusive behavior are at risk of stress related illness which can sometimes lead to suicide"''.<ref>[http://www.abc.tcd.ie/ Anti-Bullying Center] Adalwyd 28-03-2009</ref>
 
Gall y rhai sy'n cael eu bwlio ddioddef o broblemau emosiynol ac ymddygiadol hir-dymor. Mae bwlio hefyd yn gallu achosi unigrwydd, iselder, pryder, hunan-ddelwedd isel a chynyddu'r tebygolrwydd o salwch.<ref>Williams, K.D., Forgás, J.P. & von Hippel, W. (Eds.) (2005). The Social Outcast: Ostracism, Social Exclusion, Rejection, & Bullying. Psychology Press: New York, NY. </ref>
 
Dywedodd y Gynhadledd Genedlaethol o Ddeddfwriaeth Gwlad:
===Bwlio ar y We===
 
Yn ôl yr addysgwr [[Canada|Canadaidd]]idd Bill Belsey, mae hyn yn cynnwys:
<blockquote>
''...involves the use of information and communication technologies such as e-mail, cell phone and pager text messages, instant messaging, defamatory personal Web sites, blogs, online games and defamatory online personal polling Web sites, to support deliberate, repeated, and hostile behaviour by an individual or group, that is intended to harm others...''
 
===Bwlio gwleidyddol===
Mae bwlio gwleidyddol (neu ''jingoistiaeth'') yn digwydd pan mae un gwlad yn gwthio'i hawdurdod ar wlad arall. Gan amlaf, caiff hyn ei wneud drwy rym a bygythiadau milwrol. Gyda bygythiadau, mae'n gyffredin i fygwth atal cymorthdaliadau a grantiau i'w wlad fechan neu ddweud na chaiff y wlad fechan ymuno â sefydliad masnachol.
 
==Cyfeiriadau==
595,650

golygiad