Baróc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
llun
Llinell 1:
Arddull arbennig mewn [[pensaernïaeth]], [[cerddoriaeth]] a'r [[celfyddydau]] a fu'n boblogaidd rhwng diwedd yr [[17eg ganrif]] a chanol y [[18fed ganrif]], yn enwedig yng ngwledydd [[Catholig]] [[Ewrop]], yw '''Baroc''' (benthyciad o'r gair [[Saesneg]] ''Baroque'' sydd yn ei dro yn fenthyciad o'r gair [[Ffrangeg]] ''baroque'' o'r gair [[Sbaeneg]] ''barrueco''). Mae'r term yn cael ei ddefnyddio weithiau i ddisgrifio unrhyw arddull anghyffredin yn y celfyddydau a.y.y.b. yn ogystal. Gellid ystyried yr arddull Baroc fel adwaith yn erbyn [[Clasuriaeth]] y [[Dadeni]]. Dechreuodd yn yr [[Eidal]].
 
[[Image:Stift melk 001 2004.jpg|250px|bawd|[[Abaty Melk]], [[Awstria]]: enghraifft enwog o bensaernïaeth faroc]]
Fe'i nodweddir mewn pensaernïaeth ac arlunio gan y defnydd o linellau ystwyth neu dorredig, arddurnwaith blodeuog a goreuraidd (a arweiniodd at yr arddull [[Rococo]]) ac effeithiau gofodol dramatig. Ymhlith yr artistiaid baroc pwysicaf gellid crybwyll [[Bernini]], [[Borromini]], [[Caravaggio]] a [[Rubens]].