Bywyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dolen i erthygl - Parth Glas
B →‎top: clean up using AWB
Llinell 1:
'''Bywyd''' yw'r hyn sy'n galluogi organeb fyw i gymhwyso deunydd heb fywyd o'i hamgylchedd a'i ddefnyddio i dyfu mewn maint a chymhlethder, i adnewyddu ei deunydd biolegol ei hun ac i atgynhyrchu organebau eraill annibynnol sydd hefyd yn meddu ar nodweddion bywyd.
 
Credir fod bywyd ar y [[daear|Ddaear]] wedi dechrau tua 4,500,000,000 o flynyddoedd yn ôl (mae amcangyfrifon mwy ceidwadol yn ei dyddio i o gwmpas 3,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Y pryd hynny roedd yr awyr wedi'i chyfansoddi o nwyon [[methan]], [[hydrogen]], [[amonia]] a stêm [[dŵr]]. Credir i organebau [[moleciwl]]aidd syml gael eu ffurfio mewn canlyniad i'r grym a ollyngid gan belydrau'r [[haul]], [[mellt]] a ffrwydriadau [[llosgfynydd]]oedd. [[Organeb ungellog|Organebau ungellog]] oeddynt.
 
Mae'n dra thebygol mai yn y [[môr]] y datblygodd yr organebau cyntefig hyn i gynnwys [[enseim]]au (''enzymes'') a datblygu'n [[organeb amlgellog|organebau amlgellog]] a gynhyrchai [[RNA]] a [[DNA]]. Gyda threigliad maith iawn amser - tua 1,500,000,000 neu ragor o flynyddoedd - arweiniodd hyn at y [[planhigyn|planhigion]] cyntefig cyntaf oedd yn gallu dal grym y [[goleuni]] a datblygu [[ffotosynthesis]].
 
Y canlyniad oedd i [[ocsigen]] gael ei rhyddhau i'r awyr ar raddfa cynyddol, proses a ddechreuodd tua 2,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Erbyn tua 400 miliwn roedd yr [[haen oson]] yn yr awyrgylch yn ddigon trwchus i gysgodi'r tir rhag [[ymbelydredd uwchfioled]] gan ei gwneud yn haws o lawer i blanhigion mwy cymhleth a'r [[anifail|anifeiliad]] cyntefig cyntaf oroesi. Daeth y rhan fwyaf o bethau byw i ddefnyddio anadlu aerobig a dechreuodd bywyd amlhau ar wyneb y ddaear.