Calori: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gh
B →‎top: clean up using AWB
Llinell 1:
[[Uned]] i fesur [[egni]] neu [[gwres|wres]] yw'r '''calori''' sy'n cyfateb i'r gwres angenrheidiol i godi un radd [[Celsius]] ar [[tymheredd|dymheredd]] gram o ddŵr ('''calori fechan'''<ref name=GPC/> neu '''galori gram''')<ref name=EB/> neu un radd Celsius ar dymheredd cilogram o ddŵr ('''calori fawr''',<ref name=GPC>{{dyf GPC |gair=calori |dyddiadcyrchiad=13 Medi 2015 }}</ref> '''cilocalori''',<ref>{{dyf GPC |gair=cilocalori |dyddiadcyrchiad=13 Medi 2015 }}</ref> neu mewn nodiant gwyddonol '''Calori''') a hynny ar fesur un [[gwasgedd atmosfferig safonol]].<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/science/calorie |teitl=calorie |dyddiadcyrchiad=13 Medi 2015 }}</ref>
 
Ers 1925 diffinir y calori yn nhermau'r [[unedau SI|uned SI]] am egni, y [[joule]]; ym 1948 penderfynwyd taw tua 4.2&nbsp;joule yw gwerth un calori. Gall y gwres a gynrychiolir gan y calori amrywio cymaint ag un y cant ar wahanol dymhereddau, ac felly mae'n rhaid diffinio'r tymheredd ar gyfer gwresogi'r dŵr. Gan hynny, diffinid y calori fechan neu'r calori 15° fel y gwres sydd angen i godi tymheredd gram o ddŵr o 14.5° i 15.5&nbsp;° C, sy'n hafal i 4.1855&nbsp;joule. Weithiau ceir hefyd y calori&nbsp;20° (4.18190&nbsp;joule) sy'n codi tymheredd gram o ddŵr o 19.5° i 20.5&nbsp;° C; a'r calori [[cymedr]]ig (4.19002&nbsp;joule), sef un y cant o'r gwres sydd angen i godi tymheredd gram o ddŵr o 0° i 100&nbsp;° C.<ref name=EB/>
 
Defnyddir y galori fawr neu'r cilocalori yn aml mewn [[maetheg]] i gynrychioli gwerth [[bwyd]] arbennig fel cynhyrchydd egni, hynny yw y maint o fwyd sy'n angenrheidiol i gynhyrchu'r gyfryw uned.<ref name=GPC/> Cynnig gan nifer o arbenigwyr yw i ddefnyddio'r cilojoule yn lle'r cilocalori wrth drin a thrafod gwerth egni bwyd, gan gysoni arferion y maes [[gwyddor bwyd]] gyda'r gwyddorau eraill sydd yn defnyddio unedau SI. Yn ôl y Pwyllgor ar Gyfundrefn Enwau, [[Undeb Rhyngwladol y Gwyddorau Maeth]], mae un cilocalori yn hafal i 4.184&nbsp;cilojoule, ar sail cilocalori sy'n codi tymheredd cilogram o ddŵr o 14.5° i 15.5&nbsp;° C. Defnyddir y cilocalori a'r cilojoule ill dau gan lywodraethau a chwmnïau bwyd ar eu cynnyrch ar draws y bwyd, ond y calori fawr yw'r uned a ddefnyddir amlaf i fesur egni bwyd.<ref name=EB/>
 
Mae dwy uned arall o egni gwres sy'n dwyn yr enw calori. Defnyddir y '''calori Tabl Rhyngwladol''' mewn tablau sy'n dangos priodweddau [[ager]]. Ei ddiffiniad gwreiddiol yw 1/860&nbsp;[[watt-awr rhyngwladol]], sy'n hafal i 4.1868&nbsp;joule. Defnyddir y '''calori thermocemegol''' mewn maes [[thermocemeg]] i fesur [[cynhwysedd gwres]], [[gwres cudd]], a gwres adwaith. Mae'n hafal i 4.184&nbsp;joule.<ref name=EB/>