Y prif [[cyfansoddyn cemegol|gyfansoddyn cemegol]] biolegol byw mewn cannabis yw Δ9-[[tetrahydrocannabinol]] (delta-9-tetrahydrocannabinol), a gyfeirir ato'n gyffredinol fel THC.
Mae'r ddynol ryw wedi bod yn defnyddio cannabis ers cynhanes, ond ers yr [[20fed ganrif20g]] mae cynnydd wedi bod yn ei ddefnydd ar gyfer dibenion hamdden, crefyddol, ysbrydol a meddygol. Amcangyfrifir bod tua phedwar y cant o boblogaeth oedolion y byd yn defnyddio cannabis yn flynyddol a 0.6 y cant yn ddyddiol.<ref>[http://www.unodc.org/pdf/WDR_2006/wdr2006_chap2_biggest_market.pdf Cannabis: Why we should care] World Drug Report 2006, Cyfrol 1 tud.14</ref> Daeth bod ym meddiant, defnyddio neu werthu cynnyrch seicoweithredol cannabis yn anghyfreithiol yn y rhan fwyaf o wledydd y byd yn yr 20fed ganrif20g. Ers hynny, mae rhai gwledydd wedi ceisio atal defnydd cannabis yn llwyr tra bo gwledydd eraill wedi dewis ei gyfreithloni neu leihau difrifoldeb bod â channabis yn eich meddiant.