Canu Darogan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
B clean up, replaced: y 15fed ganrif → y 15g, y 14eg ganrif → y 14g, y 12fed ganrif → y 12g using AWB
Llinell 4:
===Gwreiddiau===
[[Image:Welsh Dragon Memorial Mametz Wood.jpg|150px|bawd|[[Y Ddraig Goch]] (Cofeb Mametz)]]
Mae gwreiddiau'r farddoniaeth arbennig hon yn hen iawn. Gellir olrhain y traddodiad i ddyddiau'r Celtiaid. Cyfeiria'r awdur clasurol [[Diodorus Siculus]] at y ''[[vates]]'', dosbarth o feirdd a doethion Celtaidd a fedrai ragweld y dyfodol. Cyfeiria [[Gerallt Gymro]], ar ddiwedd y 12fed ganrif12g, at yr [[Awenydd]]ion a ragwelai'r dyfodol mewn perlewyg ac a lefarai ddaroganau wedyn.
 
Math o broffwyd neu ddaroganwr oedd y mynach [[Gildas]] (5ed ganrif), ond proffwyd gwae yn lle gobaith, yn null proffwydi'r [[Hen Destament]], sy'n llefaru yn ei lyfr enwog ''[[De Excidio Britanniae]]'' (''Coll Prydain''), ac nid yw ei waith yn rhan o'r traddodiad Cymreig fel y cyfryw, er iddo ddylanwadu arno. Sonia [[Nennius]] am [[Y Ddraig Goch]] a'r Ddraig Wen yn ymladd dan [[Dinas Emrys]], caer [[Gwrtheyrn]] yn [[Eryri]], ac mae'n cyflwyno'r dewin [[Myrddin]] hefyd; parhaodd hanes y dreigiau yn elfen ganolog yn y Canu Darogan hyd y 15fed ganrif15g. Ceisio rhoi hyder i'r Cymry oedd Nennius, a dyna hefyd a wnai'r brudwyr hwythau.
 
===Oesoedd Canol===
Llinell 15:
Ond er i Fyrddin a Thaliesin, fel arwr ''[[Hanes Taliesin]]'', ddod i ddominyddu'r Canu Darogan, tadogwyd cerddi darogan ar feirdd eraill hefyd, e.e. y [[Bardd Cwsg]] (a ysbrodolodd y llyfr diweddarach ''[[Gweledigaethau'r Bardd Cwsc]]'' gan [[Ellis Wynne]]), y Bardd Bach a'r [[Bergam]]. Ceir hefyd [[Adda Fras]] (13eg ganrif?) a gysylltir â Gwynedd.
 
Daw'r traddodiad i'w benllanw fel petai yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Dyma'r cyfnod lle ceir y pwyslais pennaf ar y [[Mab Darogan]]. Cyfeirir ato weithiau fel ail [[Arthur]], neu fel [[Cynan]] a [[Cadwaladr|Chadwaladr]] yn dychwelyd i arwain y Cymry. Ond yr enw amlycaf yw 'Owain', a gysylltir ag [[Owain Lawgoch]] yn ail hanner y 14eg ganrif14g ac [[Owain Glyndŵr]] ar ddechrau'r ganrif olynol. Yn olaf ceir y canu darogan a gysylltir â [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]] ag ymgyrch [[Harri Tudur]]. Mae nifer o'r cerddi o'r cyfnod hwn, o tua 1425-1485, yn [[cywydd|gywyddau]] coeth gan feirdd proffesiynol fel [[Dafydd Llwyd o Fathafarn|Dafydd Llwyd]] o [[Mathafarn|Fathafarn]], ond ceir yn ogystal doreth o ganu llai caboledig, fformiwlëig ar fesurau'r [[canu rhydd]].
 
Ni ddiflannodd y Canu Darogan yn llwyr ar ôl buddugoliaeth Harri Tudur ar [[Brwydr Bosworth|Faes Bosworth]], ond dirwynodd i ben yng [[Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru|nghyfnod y Tuduriaid]].