Llanfarchell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 70:
Ceir pileri canolog main a bwâu wedi eu mowldio'n gain y tu fewn i'r eglwys ac mae'r rhain yn codi i'r nenfwd fesul pâr o doeon trawstiau gordd, sydd wedi eu panelu a'u haddurno ag angylion. Maent yn gorwedd ar gorbelau o garreg gyda bwystfilod a rhagor o angylion cerfiedig. Ceir ffris o garreg sydd wedi ei addurno'n gain â blodau a phennau a grotesgu – bachgen yn tynnu cynffon asyn, llwynog ac ysgarfarnog.
 
Ar yr ochr ogleddol, mae [[Humphrey Lhuyd]] yn penlinio mewn teml Glasurol, gydag angylion yn dal glôb, a deial i gynrychioli [[daearegwrdaeareg|fforiwr]].
 
Gerllaw i gofeb Lhuyd mae cofeb bres (sy'n brin yng Nghymru) yn portreadu Richard Myddelton (bu farw ym 1565) gyda'i wraig a'i 16 o blant, saith ohonynt yn ferched sydd wedi'u gwisgo'n ffasiynol a naw mab. Daeth un o'r rhain, Syr [[Thomas Myddelton]], yn Arglwydd Faer Llundain yn ddiweddarach a sefydlodd linach [[Castell Y Waun]]; bu mab arall, gof aur ac ''entrepreneur'', Syr Hugh, yn gyfrifol am drawsnewid cyflenwad dŵr Llundain, gyda'i brosiect 'Afon Newydd'.