Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tigranes Fawr"

Ychwanegwyd 5 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Yn [[83 CC]] derbyniodd y Syriaid ef fel brenin. Gorfododd lawer o drigolion y tiriogaethau yr oedd wedi eu concro i symud i’w brifddinas newydd, [[Tigranocerta]]. Erbyn hyn roedd ei ymerodraeth yn ymestyn o’r [[Alpau Pontaidd]] yng ngogledd-ddwyrain [[Twrci]] heddiw hyd [[Mesopotamia]]. Ef oedd y cyntaf o frenhinoedd Armenia i fathu ei arian ei hun.
 
Pan orchfygwyd Mithridates, brenin Pontus, gan [[Gweriniaeth Rhufain|y Rhufeiniaid]] dan [[Lucullus]] ffoddffôdd at Tigranes, ei fab-yng-nghyfraith. Mynnodd Lucullus fod Tigranes yn ildio Mithridates I Rufain, a phan wrthododd ymosododd arno. Ar [[6 Hydref]], [[69 CC]], gorchfygwyd Tigranes gan Lucullus ger Tigranocerta, ac anrheithiwyd y ddinas. Y flwyddyn wedyn bu brwydr rhwng Lucullus a byddin Tigranes a Mithridates ger [[Artaxata]], ac er i’r Rhufeiniaid fod yn fuddugol, roedd eu colledion yn sylweddol.
 
[[Image:Armenian Empire.png|thumb|chwith|250px|Ymerodraeth Tigranes Fawr]]
37,236

golygiad