James Callaghan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 25:
 
Yn dilyn buddugoliaeth Llafur yn yr etholiad Cyffredinol ym Mawrth [[1974]] daeth Callaghan yn ôl i'r Cabinet fel [[Ysgrifenydd Tramor]], gan gynnwys y cyfrifoldeb o ailgytundebu aelodaeth Prydain yn y [[Marchnad Gyffredin|Farchnad Gyffredin]]. Cefnogodd y bleidlais "Ie" yn refferendwm [[1975]] dros gadw Prydain yn y [[Cymuned Economaidd Ewropeaidd|Gymuned Economaidd Ewropeaidd (EEC)]]. Pan ymddiswyddodd [[Harold Wilson]] ym [[1976]], etholwyd Callaghan fel arweinydd [[Y Blaid Lafur (DU)|Llafur]] gan yr aelodau seneddol.
Roedd ei unig dymor fel Brif Weinidog yn anodd gan nad oedd gan Lafur fwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd rhaid iddo drafod gyda'r pleidiau bach megis yr [[Plaid Unoliaethol Wlster|Unoliaethwyr]] yng Ngogledd Iwerddon a Phlaid Genedlaethol yr Alban a Phlaid Cymru. Canlyniad hyn oedd cytundeb rhwng [[Y Blaid Lafur (DU)|Llafur]] a'r [[Y BlaidPlaid Ryddfrydol (DU)|Blaid Ryddfrydol]]. Er fod Callaghan wedi bod yn gefnogwr i'r undebau, roeddent yn gwneud pethau anodd iddo ac yr oedd y cytundeb gyda'r Rhyddfrydwyr yn fregus. Yn ystod gaeaf [[1978]] a dechrau [[1979]], cafwyd nifer o streiciau difrifol. Ar [[28 Mawrth]] [[1979]] cafwyd pleidlais o ddiffyg hyder yn y senedd. Fe gollwyd y bleidlais, a bu rhaid iddo alw etholiad cyffredinol. Yn yr [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1979|etholiad hwnnw]], trechwyd Llywodraeth Callaghan yn drwm gan y [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Blaid Geidwadol]] a daeth [[Margaret Thatcher]] yn brif weinidog.
 
== Dolenni allanol ==