Pensaernïaeth Gothig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
manion cyffredinol a LLByw, replaced: 20fed ganrif20g, 19eg ganrif19g, 12fed ganrif12g using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Notre Dame de Paris, East View 140207 1.jpg|bawd|unionsyth|Eglwys gadeiriol [[Notre-Dame de Paris]]]]
 
Arddull [[Yr Oesoedd Canol|canoloesol]] o [[pensaernïaeth|bensaernïaeth]] yw '''Gothig'''. Datblygodd yn [[Ffrainc]] yn y [[12fed ganrif12g]] o'r arddull Romanesg (a elwir yn [[Normanaidd]] yn [[Prydain|Ynysoedd Prydain]]) ac yna lledodd drwy [[Ewrop]] gyfan. Tra'r oedd [[pensaernïaeth Romanesg]] yn seiliedig ar ddulliau adeiladu'r [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]], roedd Gothig yn seiliedig ar dechnegau newydd, yn bennaf y [[bwa]] pwyntiog. Drwy ddefnyddio bwâu pwyntiog roedd yn bosib adeiladu ffenestri llawer mwy nag o'r blaen ac mae [[ffenestri lliw]] trawiadol yn nodweddiadol o [[eglwys]]i'r cyfnod.
 
==Arddulliau Gothig lleol==
Llinell 9:
 
{{Prif|Yr Adfywiad Gothig}}
O'r [[Dadeni Dysg]] ymlaen ystyrrwyd pensaernïaeth Gothig yn farbaraidd (yn wir, pan fathwyd y term "Gothig" tua'r un adeg, roedd yn derm dirmygus yn cyfeirio at y [[Gothiaid]]) a daeth adeiladau yn yr arddull clasurol yn fwyfwy ffasiynol. Dim ond yn y [[19eg ganrif19g]], pan ddatblygodd delwedd ramantaidd o'r Oesoedd Canol, y bu adfywiad o'r arddull, a ddechreuodd ym [[Prydain|Mhrydain]]. Yn dilyn effeithiau gwaethaf y [[Chwyldro Diwydiannol]] roedd llawer o feddylwyr y cyfnod am ddychwelyd at ethos gwaith a [[Cristnogaeth|Christnogaeth]] [[yr Oesoedd Canol]], a mynegwyd hyn drwy bensaernïaeth yr oes. Parhaodd defnydd o'r arddull Gothig ar gyfer rhai eglwysi a [[prifysgol|phrifysgolion]] yn yr [[20fed ganrif20g]].
 
{{eginyn pensaernïaeth}}