Big Leaves: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Ger4llt (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Band poblogaidd o [[Waunfawr (Gwynedd)|Waunfawr]], [[Caernarfon]] oedd '''Big Leaves''' ('''Beganifs''' yn wreiddiol) cyn iddynt roi'r ffidl yn y to ym [[2005]] wedi rhyddhau'r albwm ''Alien & Familiar''. ''Alien & Familiar'' oedd un campwaith ymysg nifer o senglau ag albymau penigamp a gyhoeddwyd gan y band. Yn y blynyddoedd cynnar roedd potensial y band dwyieithog yn amlwg, a honnwyd i Liam Gallagher o'r band byd-enwog ''[[Oasis]]'' ddewis '‘Fine'’ fel sengl y flwyddyn yn 2000. Aelodau'r grŵp oedd Rhodri Sion (lleisiau), Meilir Gwynedd (gitâr, lleisiau), Kevin Tame (bas, lleisiau), Osian Gwynedd (allweddellau, lleisiau) a Matt Hobbs (drymiau).
 
Cyn hynny, roedden nhw wedi rhyddhau'r cyntaf o ddau albwm: ''Pwy Sy’n Galw?''. Albwm uniaith Gymraeg ydoedd, a gynhwysai eu cân enwocaf, ‘'Seithennyn[[Seithenyn]]'’. Dros hynny, rhyddhawyd nifer o EPs o safon a thyfodd eu statws fel band ‘byw’ ardderchog.
 
Gydag ychydig mwy o gyhoeddusrwydd, nid oes amheuaeth y gallai Big Leaves fod wedi ehangu eu henw da a dyfod yn un o’r bandiau mwyaf poblogaidd i’w geni yng Nghymru, gan ddilyn olion traed y [[Super Furry Animals]] a’r [[Manic Street Preachers]].
 
"Our song [[Seithenyn]] has a middle eight that's like a Welsh Bohemian Rhapsody. It's a song about this Welsh legend. There's barber shop singing in the middle!"
 
Amlwg oedd eu talent, ac mae cerddoriaeth Gymraeg yn parhau i ddiflasu yn eu habsenoldeb.