Tywysog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Canrifoedd a manion using AWB
→‎top: manion cyffredinol a LLByw, replaced: 12fed ganrif12g using AWB
Llinell 6:
Yn y cyfnod modern, y defnydd arferol yw fel enw ar fab i [[Brenin|frenin]], neu fel enw ar deyrn yr ystyrir fod ei safle ychydig yn is na safle brenin, ac sy'n rheoli [[Tywysogaeth]]. Gall hefyd fod yn enw cyffredinol ar deyrn o unrhyw fath, er enghraifft yn llyfr [[Niccolò Machiavelli]], ''Y Tywysog''.
 
Yn [[hanes Cymru]], "tywysog", neu ''princeps'' mewn dogfennau Lladin, oedd y teitl arferol a ddefnyddid gan deyrnoedd o thua chanol y [[12fed ganrif12g]] ymlaen. Yng [[Teyrnas Gwynedd|Nheyrnas Gwynedd]], er enghraifft, defnyddiai [[Gruffudd ap Cynan]] y teitl "brenin". Dyma'r teitl a ddefnyddiaid ei fab, [[Owain Gwynedd]], ar y cychwyn hefyd, ond tua [[1157]] newidiodd i ddefnyddio'r teitl "tywysog", a dyma'r gair a ddefnyddid gan deyrnoedd Gwynedd o hynny ymlaen. Dyma'r teitl a ddefnyddiai [[Rhys ap Gruffudd]] yn [[Deheubarth|Neheubarth]] hefyd fel rheol. Ond mae ystyr y gair Cymraeg 'tywysog' fymryn yn wahanol i ystyr ''princeps''; 'rhywun sy'n ''tywys''', h.y. 'un sy'n arwain eraill' yw ystyr lythrennol y gair Cymraeg. Ym marddoniaeth llys y cyfnod roedd y teitlau traddodiadol fel 'brenin' yn cael eu defnyddio o hyd.
 
Yn ystod cyfnod [[Gweriniaeth Rhufain]], defnyddid ''princeps'' am arweinydd [[Senedd Rhufain|y Senedd]]. Pan ddaeth [[Augustus]] yn rheolwr ac [[ymerawdwr]] cyntaf Rhufain, dewisodd ddefnyddio'r teitl ''princeps'' i ddisgrifio ei safle yn hytrach nag ''imperator''.