Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru''' oedd un o bynciau gwleidyddol a chrefyddol mwyaf chwerw [[Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru]]. Yn hanesyddol ac yn gyfreithiol, caif y Mesur hwn ei gyfri'n gam pwysig gan mai dyma un o'r troeon cyntaf i ddarn o gyfraith gwlad gael ei greu'n benodol am Gymru, yn hytrach nac am Gymru a Lloegr.<ref>Philip Jenkins, P. (1992) ''A History of Modern Wales 1536–1990''. (Harlow: Longman, 1992)</ref>
 
Yng Nghymru fe'i gwelwyd fel coron ar waith a brwydrau hir a gychwynwyd yng nghanol y [[19g]] gyda'r Anghydffurfwyr yn ei harwain, ymgyrchoedd megis [[Rhyfel y Degwm]] pan ataliodd cannoedd o bobl rhag talu arian prin (degfed rhan o'u hincwm) i'r Eglwys yn Lloegr. Ym mhlith yr ymgyrchwyr hyn yr oedd [[Thomas Gee]], [[Thomas Edward Ellis|Tom Ellis]] a [[Cymru Fydd|Chymru Fydd]].