Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Hanes: clean up using AWB
→‎Hanes: Ychwanegu gwybodaeth
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Llinell 38:
 
Sefydlwyd y Llyfrgell yn [[1907]] wedi ymgyrch hir a phoblogaidd a gychwynwyd yn [[Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 1873]]. Yn 1905, gwnaeth Llywodraeth y DG addewid i sefydlu Llyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol i Gymru, a sefydlwyd pwyllgor gan y Cyfrin-Gyngor i benderfynu ar leoliad y ddau sefydliad. Cefnogodd David Lloyd George, a ddaeth wedi hynny yn Brif Weinidog, yr ymdrech i i sefydlu'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a dewiswyd y dref honno fel lleoliad iddi dros Gaerdydd, yn rhannol oherwydd bod eisoes yno gasgliad ar ei chyfer yn y Coleg. Roedd Syr John Williams, meddyg a chasglwr llyfrau, hefyd wedi rhoi geybod y byddai yn cyflwyno ei gasgliad (yn arbennig, casgliad llawysgrifau Peniarth) i'r llyfrgell pe byddai wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Yn ogystal â hynny, cyfrannodd £20,000 tuag at y gwaith o adeiladu a sefydlu'r Llyfrgell. Dewiswyd Caerdydd yn lleoliad i'r Amgueddfa Genedlaethol. Codwyd arian tuag y Llyfrgell a'r Amgueddfa Genedlaethol trwy danysgrifiadau y gweithwyr, a oedd yn anarferol yn achos sefydliadau o'r fath. Yn ôl amcangyfrif y Llyfrgellydd Cenedlaethol cynaf, John Ballinger, roedd bron i 110,000 o gyfranwyr. Sefydlwyd y Llyfrgell trwy Siartr Frenhinol ar 19 Mawrth 1907. Roedd y Siartr yn nodi pe byddai'r Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei symud o Aberystwyth, yna byddai'r llawysgrifau a roddwyd iddi gan Syr John Williams yn cael eu symud i Goleg y Brifysgol. Cyflwynwyd Siartr Frenhinol newydd yn 2006.
 
Rhoddwyd statws adnau cyfreithiol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o dan Ddeddf Hawlfraint 1911. Yn y lle cyntaf, fodd bynnag, deunydd a oedd o ddiddordeb Cymreig neu Geltaidd y gallai'r Llyfrgell ei hawlio yn achos cyhoeddiadau drud neu argraffiad cyfyngedig. Yn 1987, cafodd yr olaf o'r cyfyngiadau hyn eu codi gan wneud statws adnau cyfreithiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr un peth â Llyfrgell Bodleian, Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, Llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban.
 
Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1913 y defnyddiwyd Dosbarthiad Llyfrgell y Gyngres am y tro cyntaf mewn unrhyw lyfrgell yn y Deyrnas Gyfunol.
 
Cedwir rhai o'r [[llawysgrifau Cymreig]] pwysicaf yn Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau'r llyfrgell, gan gynnwys ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'', ''[[Llyfr Taliesin]]'', ''[[Llyfr Gwyn Rhydderch]]'', ''[[Y Llyfr Du o'r Waun]]'' a ''[[Llawysgrif Hendregadredd]]''.