Castell Degannwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Castell canoloesol a godwyd ar safle bryngaer gynharach wrth aber Conwy yng ngogledd Cymru yw '''Castell Degannwy'''. Mae'n safle o bwys hanesyddol mawr yn...
 
trwsio dolen
Llinell 4:
Yn ôl traddodiad, bu gan y brenin cynnar [[Maelgwn Gwynedd]] amddiffynfa ar y safle neu'n agos iddi yn y [[6ed ganrif]]. Cyfeirir ato yn y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]'' ac mewn rhai o'r cerddi a briodolir i'r ffug-Daliesin ([[Taliesin Ben Beirdd]]). Yn ôl y chwedl carcharodd Maelgwn [[Elffin ap Gwyddno]], noddwr y Taliesin chwedlonol, yn y castell "dan dri ar ddeg clo", ond cafodd ei ryddhau diolch i ddawn Taliesin.
 
Cloddiwyd rhan o'r safle yn 1960-61 a darganfuwyd olion sy'n dyddio i [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru]] a dechrau'r [[Yr Oesoedd Tywyll yng Nghymru|Oesoedd Tywyll]]. Nid oes modd profi'r cysylltiad â Maelgwn Gwynedd yn ôl y dystiolaeth honno, ond ceir digon o gofnodion a thraddodiadau am y cysylltiad â Maelgwn.
 
Safai'r amddiffynfa gynnar ar yr uchaf o'r ddau graig ar gopa'r bryn, a chodwyd y castell canoloesol ar yr un safle. Ni wyddys a fu amddiffynfa Gymreig yno ar ôl cyfnod Maelgwn, ond cofnodir i'r iairll [[Normaniaid|Normanaidd]] [[Robert o Ruddlan]] godi castell [[mwnt a beili]] yno yn [[1088]] pan ddaeth y Normaniaid yn agos iawn at oresgyn Gwynedd. Yn [[1213]] cipiwyd y castell gan [[Llywelyn Fawr]] a chodwyd castell o gerrig ganddo. Mae cerflun bychan a ddarganfuwyd yno yn bortreadu'r tywysog ei hun efallai, ac os felly dyna'r unig ddelwedd ohono i oroesi.