Castell Degannwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
tranc yr iarll |
||
Llinell 6:
Cloddiwyd rhan o'r safle yn 1960-61 a darganfuwyd olion sy'n dyddio i [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru]] a dechrau'r [[Yr Oesoedd Tywyll yng Nghymru|Oesoedd Tywyll]]. Nid oes modd profi'r cysylltiad â Maelgwn Gwynedd yn ôl y dystiolaeth honno, ond ceir digon o gofnodion a thraddodiadau am y cysylltiad â Maelgwn.
Safai'r amddiffynfa gynnar ar yr uchaf o'r ddau graig ar gopa'r bryn, a chodwyd y castell canoloesol ar yr un safle. Ni wyddys a fu amddiffynfa Gymreig yno ar ôl cyfnod Maelgwn, ond cofnodir i'r iairll [[Normaniaid|Normanaidd]] [[Robert o Ruddlan]] godi castell [[mwnt a beili]] yno yn [[1088]] pan ddaeth y Normaniaid yn agos iawn at oresgyn Gwynedd. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno, roedd yr Iarll Robert yn cysgu ganol dydd yn y castell pan ddeffrowyd ef gyda'r newyddion fod Cymry wedi glanio mewn tair llong islaw [[
Yn [[1213]] cipiwyd y castell gan [[Llywelyn Fawr]] a chodwyd castell o gerrig ganddo. Mae cerflun bychan a ddarganfuwyd yno yn bortreadu'r tywysog ei hun efallai, ac os felly dyna'r unig ddelwedd ohono i oroesi.
Ar ôl marwolaeth Llywelyn Fawr manteisiodd y brenin [[Harri III o Loegr]] ar ymraniadau mewnol Gwynedd ac ymosododd arni. Dymchwelwyd castell Llywelyn gan ei etifedd ac olynydd [[Dafydd ap Llywelyn]] rhag ofn i'r Saeson ei gipio. Ond cododd Henri gastell newydd yno, cryfach o gryn dipyn, a gostiodd lawer o farciau iddo. Yn [[1263]] rhoddodd [[Llywelyn ap Gruffudd]] y castell dan warchae. Llwygwyd y garsiwn i ildio a dinistriwyd y castell bron yn llwyr. Dim ond rhan o rai o'r muriau isaf sydd i'w gweld yno heddiw.
Llinell 16 ⟶ 18:
==Gweler hefyd==
*''[[Hanes Gruffudd ap Cynan]]''
*''[[Hanes Taliesin]]''
|