Fampir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfeiriadau penodedig
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 2601:743:280:236A:6DCC:8191:57DB:C482 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan [[User:Billinghurst|Bi...
Llinell 2:
Mae'r '''fampir''' yn greadur [[chwedloniaeth|chwedlonol]] sy'n byw drwy [[yfed]] [[gwaed]] pobl byw. Gall fod yn wrywaidd neu fenywaidd. Y fampir enwocaf yw '[[Draciwla]]', gwrthrych nifer fawr o lyfrau a ffilmiau.
 
Mewn [[llên gwerin|chwedlau gwerin]], dywedir y byddai fampirod yn ymweld â'r bobl a oedd yn agos atynt ac yn achosi anhrefn neu farwolaethau yn y cymdogaethau lle'r oeddent yn byw pan oeddent yn fyw. Arferent wisgo [[amdo]] a chawsant eu disgrifio fel creaduriaid chwyddedig gyda phryd a gwedd cochlyd neu dywyll, sy'n wahanol iawn i'r darlun cyfoes o fampir.<ref>[http://www.spewz.com/supernatural/the-legend-of-the-vampire/ The Legend of the Vampire: Origin and History of Vampires]</ref> Erbyn heddiw, cysylltir fampirod a chreaduriaid tenau o ran maint a gwelw o ran lliw eu croen. Er bod son am greaduriaid tebyg i fampirod yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau, ni ddaeth y term "fampir" yn gyffredin" tan ddechrau'r 18fed ganrif, ar ôl dyfodiad ofergoelion o [[Dwyrain Ewrop|Ddwyrain Ewrop]] lle'r oedd chwedlau am fampirod yn fwy cyffredin. Daeth nifer o'r chwedlau o'r [[Balcanau]], ond cafwyd creaduriaid tebyg o enwau gwahanol fel y ''vampir'' (вампир) yn [[Serbia]], ''vrykolakas'' yng [[Gwlad Groeg|Ngwlad Groeg]] a'r ''strigoi'' yn [[Rwmania]]. Arweiniodd hyn at gynnydd yng nghred pobl mewn fampirod ac o ganlyniad, lladdwyd rhai pobl trwy yrru gwaywffon trwy eu calonnau wedi iddynt gael eu cyhuddo o fampiraeth.
 
Yn fwy diweddar, fodd bynnag, ystyrir y fampir yn greadur dychmygol, er fod rhai pobl yn dal i gredu mewn creaduriaid tebyg i fampirod, fel y [[chupacabra]] mewn rhai diwylliannau.