George Washington: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 21:
Yn ddyn ifanc, gweithiai Washington fel tirfesurydd cefn gwlad gan ennill dealltwriaeth a fyddai'n bwysig iawn yn ddiweddarach o ddaearyddiaeth ei dalaith enedigol.
 
Cafodd ei brofiad cyntaf fel arweinydd milwrol yn ystod y rhyfel rhwng [[Ffrainc]] a'r brodorion Americanaidd ([[1754]]-[[1763]]). Oherwydd ei brofiad a'i wybodaeth o dir Virginia, fe'i etholwyd yn arweinydd pennaf y lluoedd Americanaidd yn [[1775]] gan [[yr Ail Gyngres Gyfandirol]] ar ddechrau Rhyfel Annibyniaeth America. Cliriodd y Prydeinwyr allan o [[Boston]] yn [[1776]] ond bu bron iddo gael ei ddal ar ôl colli [[Efrog Newydd]] gyda cholledion trymion yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn. Gwnaeth i fyny am hynny trwy groesi [[Afon Delaware]] yn y gaeaf a threchu unedau Prydeinig yn [[New Jersey]]. Aeth yn ei flaen i drechu a dal y ddwy brif fyddin Brydeinig yn [[Saratoga]] ([[1777]]) ac wedyn yn [[Yorktown]] ([[1781]]).
 
Roedd yn trafod y berthynas rhwng y taleithiau a'u milisias, yn gweithio gyda [[Congress]] i gynnal y fyddin Gyfandirol, yn trafod â'r cynghreiriaid Ffrengig ac yn delio â dadlau rhwng staff y fyddin, a daeth i gynrychioli yn ei berson nerth milwrol a gwleidyddol y genedl newydd.
Llinell 27:
Ar ddiwedd y rhyfel annibyniaeth yn [[1783]] ymddeolodd Washington i'w ystâd yn [[Mount Vernon]]. Ymyrodd yn bersonol i lywio'r Gynhadledd Gyfansoddiadol a ddrafftiodd fersiwn cryfach o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau yn [[1787]].
 
Ar [[30 Ebrill]], [[1789]], daeth Washington yn Arlywydd yr Unol Daleithiau newydd a chreodd system o lywodraethu trwy gabinet a dorodd â'r traddodiad seneddol. Bu ganddo ran flaenllaw mewn creu arferion a rheolau y llywodraeth newydd a detholwyd ei harweinwyr cyntaf i gyd ganddo yn bersonol. Cefnogai gynlluniau [[Alexander Hamilton]] i greu llywodraeth ganolog rymus trwy ariannu'r holl ddyledion cenedlaethol a thaleithiol, creu system treth canolog a sefydlu banc cenedlaethol. Nid oedd pawb o blaid y canoli grym hynny a phan wrthryfelodd [[Pennsylvania]] yn [[y Chwyldro Chwisgi]] bu rhaid i Washington arwain byddin i'w thawelu. Arwyddodd [[Cytundeb Jay|Gytundeb Jay]] yn [[1795]] i osgoi rhyfel bellach â Phrydain, er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig pleidwyr [[Thomas Jefferson]]. Cefnogai'r [[Plaid Ffederal America|Blaid Ffederal]] (rhagflaenydd [[y Blaid Weriniaethol]]) er nad oedd yn aelod ohoni. Sefydlodd yr arfer nad oedd arlywydd i wasanaethu am fwy na ddau dymor ac ymddeolodd unwaith yn rhagor i'w ystâd yn Virginia yn [[1797]], lle bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1799.
 
== Dywediadau ==