Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Castell Degannwy"

Ychwanegwyd 249 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(tranc yr iarll)
BNo edit summary
Yn [[1213]] cipiwyd y castell gan [[Llywelyn Fawr]] a chodwyd castell o gerrig ganddo. Mae cerflun bychan a ddarganfuwyd yno yn bortreadu'r tywysog ei hun efallai, ac os felly dyna'r unig ddelwedd ohono i oroesi.
 
Ar ôl marwolaeth Llywelyn Fawr manteisiodd y brenin [[Harri III o Loegr]] ar ymraniadau mewnol Gwynedd ac ymosododd arni. Dymchwelwyd castell Llywelyn gan ei etifedd ac olynydd [[Dafydd ap Llywelyn]] rhag ofn i'r Saeson ei gipio. Ond cododd Henri gastell newydd yno, cryfach o gryn dipyn, a gostiodd lawer o farciau iddo. Yn [[1263]] rhoddodd [[Llywelyn ap Gruffudd]] y castell dan warchae. Llwygwyd y garsiwn i ildio a dinistriwyd y castell bron yn llwyr. Dim ond rhan o rai o'r muriau isaf sydd i'w gweld yno heddiw. Ar ôl goresgyniad 1282-3, defnyddiwyd llawer o gerrig yr adfail i godi muriau [[Castell Conwy]].
 
Ceir mynediad at y castell, sydd ar dir comin, trwy ddilyn un o'r sawl llwybrau ato o bentref [[Degannwy]] neu o'r lôn rhwng Degannwy a [[Llanrhos]].
 
==Llyfryddiaeth==