Cleopatra Thea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 11:
Yn ddiweddarach, ceisiodd Demetrius ymosod ar yr Aifft. Ymatebodd brenin yr Aifft trwy gefnogi [[Alexander II Zabinas|Alexander Zabinas]], a hawliai fod yn fab i Alexander Balas, fel brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd. Gorchfygodd ef Demetrius ger [[Damascus]]. Enciliodd Demetrius i [[Ptolemais Hermiou]], ond roedd pyrth y ddinas wedi eu cau yn ei erbyn ar orchymyn Cleopatra. Aeth ar fwrdd llong i ffoi, ond llofruddiwyd ef ar orchymyn Cleopatra.
 
O [[125 CC]] hyd [[121 CC]], Cleopatra oedd yn rheoli'r ymerodraeth. Lladdodd fab hynaf Demetrius, Seleucus, pan geisiodd ef hawlio'r orsedd. Gwnaeth ei mab [[Antiochus VIII Grypus]] yn gyd-frenin, ond pan ddangosodd ef arwyddion ao annibyniaeth, penderfynodd Cleopatra ei lofruddio. Wedi iddo ddychwelyd o hela yn [[121 CC]] cynigiodd ei fam gwpanaid o win iddo. Roedd Antiochus yn amheus, a gorfododd ei fam i yfed y gwin ei hun. Roedd wedi ei wenwyno, a bu Cleopatra farw.