Numantia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Dinas yng ngogledd [[Sbaen]] oedd '''Numantia''' ([[Sbaeneg]]:'''''Numancia''''').
 
Mae ansicrwydd i ba lwyth yr oedd trigiolion y ddinas yn perthyn; dywed [[Plinius yr Hynaf]] ei bod yn perthyn i'r [[Pelendones]], ond yn ô [[Strabo]] a [[Ptolemi]] perthynai i'r [[Arevaci]], llwyth [[Celtiberiaid|Celtiberaidd]]. Bu pobl Numantia yn ymladd yn erbyn [[Gweriniaeth Rhufain]] am flynyddoedd, a chwasant nifer o fuddugoliaethau. Yn [[137 CC]], ildiodd byddin o 20,000 o Rufeiniaid iddynt.
 
Dechreuodd y gwarchae olaf yn [[134 CC]], dan y [[Conswl Rhufeinig]] [[Publius Cornelius Scipio Aemilianus]], gyda byddin o 30,000 o filwyr. Ymhlith ei swyddogion roedd [[Gaius Marius]]. Wedi gwarchae o wyth mis, penderfynodd y rhan fwyaf o'r trigolion eu lladd eu hunain yn hytrach nad ildio i'r Rhufeiniaid, a dim ond ychydig gannoedd a ildiodd. Wedi cipio Numantia, roedd y rhan fwyaf o Sbaen dan awdurdod Rhufain, heblaw y rhan fwyaf gogleddol.