Bactria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B camsillafu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Rhanbarth hynafol a theyrnas hanesyddol yng [[Canolbarth Asia|Nghanolbarth]] [[Asia]] oedd '''Bactria''' (hefyd '''Bactriana''', Bākhtar yn [[Perseg|Mherseg]], Bhalika yn [[Arabeg]] ac ieithoedd [[India]]idd, a Ta-Hsia yn [[Tsieinïeg]]). Roedd yn gorwedd i'r dwyrain o'r [[Môr Aral]]. Ar ei lletaf roedd Bactria yn cynnwys tiriogaethau presennol y Canolbarth Asia [[Rwsia]]idd, [[Affganistan]] a [[Pacistan|Phacistan]], gyda'i chanol rhwng yr [[Hindu Kush]] ac afon [[Amu Darya]] (yr Oxus hynafol). Ei phrifddinas oedd Bactra neu Balhika ([[Balkh]] yn Affganistan heddiw). I'r de-orllewin yr oedd yn ffinio â [[Persia|Phersia]] tra bod hen deyrnas [[Gandhara]] yn gorwedd i'r de-ddwyrain. Mae [[Bactreg]] yn iaith [[Iranaidd]] yn yr is-deulu [[Indo-Iranaidd]] yn y teulu [[Indo-Ewropeaidd]] o ieithoedd. Ymhlith disgynyddion y Bactriaid heddiw y mae'r [[Pashtun]] a'r [[Tajikiaid]].
 
Roedd yn dalaith [[Achaemeniaid|Achaemeniaidd]] o tua [[600 CC]] hyd ei goncwest gan [[Alecsandr Mawr]]. Am gyfnod ar ôl hynny bu dan reolaeth y [[Persia|Bersia]] [[Seleuciaid|Seleuciaidd]] ac wedyn [[Parthia]] dan [[Mithridates I, obrenin Parthia|Mithridates I]] ar ôl cyfnod byr fel teyrnas annibynnol dan [[Diodotus I]]. O'r [[ganrif gyntaf OC]] meddianwyd Bactria gan nomadiaid o [[Kushan]]. Dan eu rheolaeth nhw blodeuai diwylliant unigryw a oedd yn cynnwys elfennau [[Bwdhiaeth|Bwdhydd]] o Ganolbarth Asia (ardal [[Turfan]], er enghraifft), [[Iran]]aidd a [[Groeg yr Henfyd|Groegaidd]]-[[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]]. Hyd tua [[600]] roedd Bactria yn parhau i fod yn groesffordd ddiwyllianol a masnachol rhwng y Gorllewin a'r Dwyrain.
 
==Dolenni allanol==