Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gweriniaeth Rhufain"

Ychwanegwyd 367 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
(ehangu)
(ehangu)
Yn y cyfnod cynnar, [[Teyrnas Rhufain|brenhinoedd]] oedd yn rheoli Rhufain. Diorseddwyd yr olaf o'r rhain, [[Tarquinius Superbus]], tua [[509 CC]]. Dan y drefn newydd, roedd dau [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.
 
Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr [[Etrwsciaid]]. Yn ail hanner y [[3edd ganrif CC]], dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas [[Carthago]] yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd [[Hannibal]] ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan [[Scipio Africanus]]. Wedi gorchfygu [[Macedonia]] yn yr [[2il ganrif CC]], Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas [[Môr y Canoldir]].
 
Yng nganol yr [[2il ganrif CC]], bu rhyfel eto yn erbyn Carthago. Yn [[146 CC]] cipiwyd dinas Carthago gan fyddin dan [[Scipio Aemilianus]], ac ar orchymyn [[Senedd Rhufain|y senedd]], dinistriwyd hi yn llwyr. Yr un flwyddyn gorchfygodd byddin Rufeinig arall dan [[Lucius Mummius]] fyddin y [[Cynghrair Achaeaidd]] ym [[Brwydr Corinth (146 CC)|Mrwydr Corinth]], a daeth [[Gwlad Groeg|Groeg]] yn dalaith Rufeinig. Yn dilyn y brwydrau hyn, Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas [[Môr y Canoldir]].
Erbyn canol yr ail ganrif CC, roedd pwnc y tir yn bwnc llosg yn Rhufain. Disgwylid i ddinasyddion oedd yn gwasanaethu yn y fyddin aros yn y fyddin nes gorffen ymgyrch arbennig, weithiau am flynyddoedd. Oherwydd hyn, ni allent weithio ar eu ffermydd, ac yn aml aent yn fethdalwyr. Prynwyd llawer o'r tir gan y cyfoethogion, i greu ''[[latifundia]]'', ffermydd mawr a weithid gan gaethweision. Pan ddychwelai'r milwyr i Rufain, nid oedd ganddynt fywoliaeth.
 
Erbyn canol yr ail ganrif CC,hyn roedd pwnc y tir yn bwnc llosg yn Rhufain. Disgwylid i ddinasyddion oedd yn gwasanaethu yn y fyddin aros yn y fyddin nes gorffen ymgyrch arbennig, weithiau am flynyddoedd. Oherwydd hyn, ni allent weithio ar eu ffermydd, ac yn aml aent yn fethdalwyr. Prynwyd llawer o'r tir gan y cyfoethogion, i greu ''[[latifundia]]'', ffermydd mawr a weithid gan gaethweision. Pan ddychwelai'r milwyr i Rufain, nid oedd ganddynt fywoliaeth.
 
Yn [[133 CC]] etholwyd [[Tiberius Sempronius Gracchus]] yn dribwn y bobl. Cynigiodd fesurau dan yr enw ''Lex Sempronia agraria''. Dan y rhain, byddai'r wladwriaeth yn cymeryd meddiant o dir oedd wedi ei ennill yn flaenorol mewn rhyfel oddi wrth unrhyw un oedd yn dal mwy na 500 jugera (tua 310 acer, 1.3 km²). Gellid wedyn ei ddosbarthu i'r cyn-filwyr. Golygai hyn y byddai y cyfoethogion yn colli tiroedd helaeth, ac yn [[132 CC]] lladdwyd Tiberius mewn terfysg yn y ddinas. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, cyflwynodd ei frawd, [[Gaius Gracchus]], fesurau mwy radicalaidd fyth, ond lladdwyd yntau.
37,236

golygiad