Pibgod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
pibyddion y gwledydd Celtaidd
Llinell 2:
 
Mae’r cyfeiriad cyntaf at y pibgod (sydd weithiau yn mynd yn ôl yr enwau cotbib, pibau cŵd neu pipa cwd) yn dyddio nôl i’r 12g. Mae’n debyg fod pibyddion wedi cystadlu yn yr [[Eisteddfod]] gyntaf i’w chofnodi – a drefnwyd gan yr [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] yn [[Aberteifi]] yn [[1176]]. Tua’r un cyfnod, nododd [[Gerallt Gymro]] (Giraldus Cambrensis, c.[[1146]]–[[1223]]) fod y Cymry’n chwarae’r [[Telyn|delyn]], y pibgod a’r [[crwth]]. Cyfeirir yn aml atynt ym marddoniaeth Cymru’r canol oesoedd (e.e. [[Iolo Goch]] yn sôn am ‘chwibanogl a chod’, neu bib a bag) tra bod cerddi dychanol gan feirdd a oedd hefyd yn delynorion yn ddirmygus o bibyddion a’u offerynnau.
<gallery>
Pibecyrn.jpg|[[Pibau Cymreig]]
Golowan Festival Penzance June 2005 Mid-Argyl band2.jpg|Pibyddion o'r [[Alban]]
CornishBagpipes.jpg|Pibydd o [[Cernyw|Gernyw]]; cerfiwyd ar fainc yn [[Davidstow]].
Breton bagpipes.jpg|Pibydd o [[Llydaw|Lydaw]]
</gallery>
 
Cyfansoddwyd nifer o alawon ar hyd y blynyddoedd gyda’r pibgod mewn golwg, gyda theitl yr alaw yn amlygu’r bwriad i’w berfformio ar yr offeryn, megis ‘Erddigan y Pibydd Coch’ a ‘Conset y Peipar Coch’. Mae’r rhain y dyddio o’r 17g. hyd at y 19g. Mae cryn dystiolaeth eiconograffig o bibgodau a phibyddion yng Nghymru hefyd, yn amrywio o gerfluniau sy’n dyddio o’r 11g. o bibyddion, gan gynnwys cyrnbeipiau dwbl, at ddarluniau o bibyddion ar gefn ceffylau mewn seremonïau priodasol yn y 19g. Yn ôl disgrifiadau o arferion pibyddion erbyn y 19g. dyma oedd y cyd-destun mwyaf cyffredin ar gyfer pibgodau. Mae’n debyg mai ucheldir anial [[Bannau Brycheiniog]] yn ne Cymru oedd cadarnle olaf y pibgod gyda enw dau chwaraewr yn goroesi o’r cyfnod – Evan Gethin ac Edward Gwern y Pebydd. Chwaraea’r ddau mewn priodasau yng [[Glyn-nedd|Nglyn Nedd]] oddeutu 1860, neu o bosib ychydig yn hwyrach. Lleoliad arall tebygol oedd tref [[Caerfyrddin]], lle clywid pibgodau yn fwyaf aml mewn priodasau mawreddog.