Pergamon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ychw |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
Daeth [[Philetaerus]], mab [[Attalus]], i rym yn [[281 CC]] wedi diwedd Teyrnas Thrace. Ochrodd Pergamon gyda [[Gweriniaeth Rhufain]] yn gyson, er enghraifft cefnogodd [[Attalus I]] (241-197 CC) y Rhufeiniaid yn erbyn [[Philip V, brenin Macedon]], a chefnogodd [[Eumenes II]] (197-158 CC) Rufain yn erbyn [[Perseus, brenin Macedon]]. Fel gwobr am eu cefnogaeth i Rufain yn erbyn yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]], rhoddwyd holl diriogaethau'r Seleuciaid yn [[Asia Leiaf]] i Pergamon. Ymladdasant sawl gwaith yn erbyn y [[Galatiaid]]; dethlir eu buddugoliaethau dros y Galatiad mewn cyfres o gerfluniau enwog sydd wedi goroesi fel copïau Rhufeinig.
Pan fu'r brenin [[Attalus III, brenin Pergamum|Attalus III]] (138-133 CC) farw heb adael mab yn [[133 CC]], gadawodd ei deyrnas i Rufain yn ei ewyllys i arbed rhyfel cartref. Roedd Pergamon yn ganolfan bwysig i [[Cristionogaeth|Gristionogaeth]] gynnar
|