Llechfaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B dyddiadau adalio
Llinell 6:
 
==Defnydd llechfaen==
Deillia'r dystiolaeth gynharaf am ddefnydd llechfaen o Oes yr Eifftiaid. Gosodent ddarnau o lechen fel tafod yng nghegau mwmiau. <ref> [http://www.llechicymru.info/ExemplarsofUse.cymraeg.htm Llechwefan] – adalwyd ar ~~~~~2 Rhagfyr 2007</ref>
*Defnydd pennaf llechfaen yw fel defnydd adeiladu. Y nodweddion sy'n ei wneud yn addas at adeiladu yw nad yw llechfaen yn llosgi, yn wir nid yw prin yn adweithio gydag unrhywbeth, a'i fod yn anathraidd (nid yw dŵr yn ei dreiddio nemor ddim). Oherwydd hyn mae'n ddefnydd adeiladu sy'n para blynyddoedd lawer. Mae modd hollti llechfaen mewn dau gyfeiriad sydd fel arfer ar ongl lletraws i'w gilydd, sef y plân pileri a'r plân hollti. <ref> Alan Holmes, ''Slates from Abergynolwyn'', t.40 (Gwynedd Archive Services, 1986) </ref> Oherwydd hyn mae modd cynhyrchu gwahanol ddefnyddiai adeiladu yn hwylus ohono.
**Gellir hollti llechfaen yn haenau tenau ar hyd y plân hollti a chynhyrchu llechi gwastad, llyfn. Defnyddir llechi ar ben to ers dyddiau'r Rhufeiniaid. Mae trwch y llechi yn dibynnu yn y lle cyntaf ar yr amgylchiadau pan ffurfiwyd y llechfaen, h.y. pa ddefnydd oedd y gwaddod, ac ar ba dymheredd a gwasgedd y trawsnewidiwyd y gwaddod yn graig.
**Defnyddir slabiau mwy trwchus ar lawr mewn lloriau neu lwybrau. Defnyddid slabiau llechfaen hefyd yn gerrig simnau, yn siliau ffenestr, yn linteli ar ben drws neu ffenestr, yn byst drysau, yn gribau, fel cladin, fel copin, ar gyfer muriau a ffensio, yn danciau dŵr, yn risiau, a.y.b.
** Mae lliw naturiol llechfaen yn amrywio o ardal i ardal a hynny'n ystyriaeth bwysig yn ei ddefnydd pensaernïol. Ceir llechfaen unlliw a llechfaen brith, yn llwyd, porffor, glas, coch a gwyrdd. Cynlluniwyd to llechi gwyrddion ar gyfer adeilad Prifysgol Cymru Bangor: rhaid oedd cael y llechi o Benfro gan nad oedd chwareli llechi gwyrddion Dyffryn Nantlle yn cynhyrchu llechi ar adeg yr adeiladu yn 1907. <ref> [http://www.llechicymru.info/ISlateAreas.cymraeg.htm ''Yr Ardaloedd Llechi'' – Llechwefan] – adalwyd ar ~~~~~2 Rhagfyr 2007</ref> Defnyddir llechfaen o wahanol liwiau i greu patrymau addurniadol ar doeon ac mewn cladin, megis yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
**Yn ddiweddar dechreuwyd defnyddio agreg llechfaen yn y diwydiant adeiladu ac mewn gerddi. O'r mynyddoedd gwastraff llechfaen y daw'r agreg.
*Defnydd arall
Llinell 17:
**Gan nad yw llechfaen yn llosgi nac yn cario gwres yn rhwydd, defnyddir slabiau o lechfaen i wneud byrddau biliards, meinciau mewn labordai ac mewn lleithdai.
**Oherwydd nad yw'n adweithio'n gemegol defnyddir llwch llechfaen fel llanwr mewn amryw o gynhyrchion; e.e. paent, glud, bitwmen, ffelt to, pryfleiddiaid.
**Defnyddid llechi gan ddisgyblion yn lle papur ysgrifennu o'r 18fed ganrif hyd at ddechrau'r 20fed ganrif. Rhoid ymyl o bren am y lechen, a defnyddid pensilau plwm i ysgrifennu arnynt, gan lanhau'r lechen a'i hail-ddefnyddio dro ar ôl tro. Cynhyrchid llechi ysgrifennu gwag, rhai llinellog, llechi â sgwariau arnynt, a llechi gyda mapiau arnynt. O lechfaen y gwnaed byrddau duon hefyd. <ref> [http://www.llechicymru.info/writingslates.cymraeg.htm Llechi ysgrifennu - Llechwefan] – adalwyd ar ~~~~~2 Rhagfyr 2007</ref>
**Defnyddir llechfaen wrth gynhyrchi addurniadau, gwaith crefft a cherflunio, gan gynnwys gwaith enamlo llechi.