Taurus (cytser): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CamWrthGam (sgwrs | cyfraniadau)
B Ychwanegu delweddau.
CamWrthGam (sgwrs | cyfraniadau)
B Creu rhai cysylltiadau.
Llinell 3:
[[Cytser]] y [[Sidydd]] yw '''Taurus''', sef gair [[Lladin]] am 'darw'. Mae wedi'i leoli rhwng [[Aries (cytser)|Aries]], [[Gemini (cytser)|Gemini]], [[Perseus (cytser)|Perseus]] ac [[Orion (cytser)|Orion]]. Ei symbol yw [[Image:Taurus.svg|15px]] ({{Unicode|Unicode ♉}}). Mae'n un o 48 cytser a restrwyd gan yr [[athroniaeth|athronydd]] [[Ptolemy]] yn yr [[2il ganrif|Ail ganrif]], ac un o'r 88 cytser swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol. ''Tau'' ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol am y cytser.
 
Lleolir yr Haul yn wrthgyferbyniol i Taurus yn y wybren ym mis Tachwedd, oherwydd symudiad [[y Ddaear]] o amgylch yr [[Haul]], a felly rhwng Rhagfyr a Chwefror mae'r cytser yn rhan amlwg o'r awyr nos am oriau ar ôl iddi nosi.
 
Mae Taurus yn cynnwys y seren ddisglair Aldebaran, sy'n dangos lliw oren i'r llygad noeth. Yn y cytser hefyd yw'r [[Hyades (clwstwr sêr)|Hyades]] a'r [[Pleiades]], dau o'r [[clwstwr sêr|clystyrau sêr]] agosaf i'r [[Cysawd yr Haul]].
 
Mae rhan o'r [[Llwybr Llaethog]] yn mynd trwy Taurus, a felly gwelir nifer o [[nifwl|nifylau]] a chlystyrau sêr eraill yn y cytser. Ymlith y rhain yw'r ''Nifwl y Cranc'', neu Messier 1, gweddill uwchnofa arsyllwyd yn y flwyddyn 1054.