Llanfihangel Llantarnam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Abaty Llantarnam: canrifoedd a Delweddau, replaced: 13eg ganrif13g using AWB
eglwys
Llinell 1:
[[Delwedd:The Greenhouse, Llantarnam - geograph.org.uk - 1639590.jpg|250px|bawd|Tafarn yn LLanfihangel Llantarnam]]
Pentref, [[plwyf]] a [[Cymuned (llywodraeth leol)|chymuned]] yn [[Torfaen|Nhorfaen]] yw '''Llanfihangel Llantarnam''', weithiau '''Llantarnam'''. Hi yw'r gymuned fwyaf deheuol yn Nhorfaen, ac mae wedi datblygu yn un o faesdrefi [[Cwmbrân]]. Roedd poblogaeth y gymuned yn [[2001]] yn 3,299; cynyddodd i 4,125 erbyn [[2011]]. Mae [[Camlas Sir Fynwy]] yn rhedeg trwy'r gymuned. Bu yma eglwys ar un cyfnod a gysegrwyd i sant [[Derfel Gadarn]].<ref>[https://www.llgc.org.uk/fileadmin/fileadmin/docs_gwefan/casgliadau/Drych_Digidol/Deunydd_print/Welsh_Classical_Dictionary/05_D-E-F.pdf llgc.org.uk;] ''Welsh Classical Dictionary''; adalwyd 6 Ebrill 2017.</ref>
 
==Abaty Llantarnam==
{{prif|Abaty Llantarnam}}
Sefydlwyd abaty [[Urdd y Sistersiaid|Sistersaidd]] [[Abaty Llantarnam|Llantarnam]] yma yn 1179 gan fynachod o [[Ystrad Fflur]] dan nawdd Hywel ap Iorwerth, arglwydd [[Caerllion]]. Efallai mai yng Nghaerllion y sefydlwyd y fynachlog gyntaf, ond cofnodir ei bod yn Llantarnam erbyn y [[13g]]. Roedd yr abad John ap Hywel yn un o brif gefnogwyr [[Owain GlyndŵrGlyn Dŵr]]; lladdwyd ef ym [[Brwydr Pwllmelyn|Mrwydr Pwllmelyn]] yn [[1405]]. Yn ddiweddarach, trowyd yr abaty yn blasdy, ac mae'n awr yn gartref i Chwiorydd Sant Joseff. Ceir [[Croes Llanfihangel Llantarnam]] yma.
 
==Pobl o Lantarnam==