John Jones, Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
[[delwedd:Fannyjonestalysarn.jpg|bawd|chwith|150px|Mrs Fanny Jones, Talysarn]]Aeth ymlaen i fod yn chwarelwr, ac yn [[1822]] symudodd i fyw i [[Talysarn|Dalysarn]] yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Yn fuan wedi hyn, cyfarfu a phriododd Frances, neu Fanny, Edwards. 'Rhoddodd gorau i'r chwarel yn fuan wedi priodi, a bu John a Fanny Jones yn cadw siop gwerthu pobdim yn Nhalysarn. I bob pwrpas, hi oedd yn gweinyddu'r siop - gan fod ganddi Saesneg a dealltwriaeth ar fasnach, ac yn gallu trin yr holl brynu a gwerthu - gan adael amser iddo yntau deithio a phregethu. Erbyn [[1829]] fe'i ordeinwyd yng ngwasanaeth yr Eglwys Methodistaidd. Aeth ymalen i fod yn bregethwr adnabydus ledled Cymru.
 
Rhwng [[1850]] a [[1852]] 'roedd wedi ymuno ac eraill i brynu chwarel y[[Chwarel Dorothea]], a bu'n arolygydd ar y chwarel. Ond ymddengys nad oedd yn lwyddiant mawr fel perchennog chwarel ac 'roedd y gwaith yn amharu ar ei bregethu hefyd.
[[delwedd:Masnachdyjohnjonestalysarn.jpg|bawd|chwith|250px|Y Siop 'Nantlle House']]
Bu i nifer o'i frodyr a'i chwiorydd, ynghyd a nifer eraill o Ddolwyddelan a'r ardal, ymfudo i [[Wisconsin]], gan ymsefydlu yn bennaf o gwmpas pentref [[Cambria (Wisconsin)|Cambria]], ac ymddengys iddo yntau ystyried ymuno â hwy yn [[America]]. Ond yng Nghymru arhosodd John a Fanny Jones, a chael tri-ar-ddeg o blant.