Pietro Bembo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deb (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
delweddau, cyfeiriadau |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Titian - Portrait of Pietro Bembo - WGA22949.jpg|bawd|Portread o'r Cardinal Bembo yn ei wisg eglwysig, gan [[Titian]] (tua 1540).]]
Beirniad, ysgolhaig, a bardd Eidalaidd oedd '''Pietro Bembo''' ([[20 Mai]] [[1470]] – [[18 Ionawr]] [[1547]])<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Pietro-Bembo |teitl=Pietro Bembo |dyddiadcyrchiad=8 Ebrill 2017 }}</ref> ac hefyd yn [[cardinal (Eglwys Gatholig)|gardinal]], un o [[Marchogion yr Ysbyty|Farchogion yr Ysbyty]], ac un o ffigurau blaenllaw [[y Dadeni Dysg]]. Fel meistr y delyneg a'r [[soned]] Betrarchaidd, Bembo oedd llenor blaenaf [[yr Eidal]] yn y 16g ac fe ddalai'r ffyniant llenyddol a sbardunwyd gan [[Dante]], [[Petrarch]], a [[Boccaccio]] yn y cyfnod cynt. Yn anad dim, beirniad chwaeth a safonwr y llên genedlaethol
== Bywgraffiad ==
[[Delwedd:Autograph von Pietro Bembo.png|bawd|150px|Llythyr mewn llaw y Cardinal Bembo ar ran y Pab Leo X.]]
Ganwyd yn [[Fenis]] i deulu bonheddig, a chafodd Pietro ei addysg [[dyneiddiaeth|ddyneiddiol]] gan ei dad Bernardo. Llysgennad dros [[Gweriniaeth Fenis|Weriniaeth Fenis]] oedd Bernardo, a chrwydrodd y gŵr a'i fab ar draws yr Eidal: [[Fflorens]], [[Padua]], a [[Messina]]. Dysgodd [[Lladin]] a'r [[Hen Roeg (iaith)|Hen Roeg]] yn rhugl, a dilynai esiampl ei dad wrth werthfawrogi hefyd yr iaith lafar a llên y gwerin. Mynychodd Pietro llysoedd [[Ferrara]] ac [[Urbino]],
== Bembo'r bardd ==
Cychwynnodd Bembo'r llenor drwy gyfansoddi [[barddoniaeth delynegol]] yn Lladin, ac hynny mewn mesur caeth o safon uchel. Fe drodd yn hwyrach at iaith lafar [[Tysgani]], gan fabwysiadau cerddi Petrarch yn batrwm i'w waith. Bembo oedd dynwaredwr enwocaf Petrarch, a gelwir yr arfer lenyddol honno yn ''bembismo''.<ref name=EB/> Ysgrifennodd hefyd ymdriniaeth ymddiddanol ar bwnc serch platonig, ''Gli Asolani'' (1505), a'i ysbrydolid gan ''Symposiwm'' [[Platon]]. Honno oedd y rhyddiaith gyntaf yn y Dysganeg gan awdur nad oedd yn hanu o Dysgani.<ref name=EWB/> Cyhoeddwyd casgliad o'i delynegion dan y teitl ''Rime'' ym 1530.
== Bembo'r beirniad a safonwr iaith ==
Mae'n debyg taw ''Prose della volgar lingua'' (1525; "Rhyddiaith yn iaith y werin") yw'r gramadeg Eidaleg cynharaf. Yn y gwaith hwnnw, gwnai Bembo ddefnydd o'r ymgom wrth gyfundrefnu orgraff a gramadeg yr iaith genedlaethol i osod normau ar gyfer cywair lenyddol Eidaleg ar batrwm barddoniaeth Petrarch a rhyddiaith Boccaccio. Dadleuodd dros sefydlu Tysganeg y 14g – iaith Petrarch – yn sail i'r Eidaleg lenyddol, a chyda nodweddion tafodiaith Fflorens yn enwedig. Nodai'r llyfr hwn drobwynt yn nadl hir yr iaith genedlaethol (''questione della lingua'').<ref name=EWB/> Gwrthwynebai safbwynt Bembo gan y tra-Ladinwyr, ac hefyd y llu o blaid cywair fodernach. Llwyddodd safonau Bembo i ennill y ddadl erbyn diwedd y 16g.<ref name=EB/>
== Cyfeiriadau ==
Llinell 14 ⟶ 16:
== Darllen pellach ==
* Cian, Vittorio. ''Un decennio della vita di M. Pietro Bembo, 1521–1531''.
* Cian, Vittorio.
* Dionisotti, Carlo.
* Kidwell, Carol. ''Pietro Bembo: Lover, Linguist, Cardinal''.
* Mazzacurati, Giancarlo.
* Meneghetti, Gildo. ''La vita avventurosa di Pietro Bembo, umanista, poeta, cortigiano''.
* Santoro, Mario. ''Pietro Bembo''.
* Vecce, Carlo.
{{comin|Category:Pietro Bembo|Pietro Bembo}}
|