Defnyddiwr:Twm Elias/Llên Gwerin Byd Natur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
paratoi
 
(Dim gwahaniaeth)

Golygiad diweddaraf yn ôl 05:16, 13 Ebrill 2017

Erthygl gyfan; Awgrymir y teitl: 'Meicrobau a chlefydau mewn llên gwerin'.

Llên Gwerin Byd Natur

Rhif 25 – Meicrobau a Chlefydau

gan Twm Elias

Cyn yr oes wyddonol fodern roedd gan bobl bob mathau o esboniadau difyr i esbonio'r anesboniadwy. Byddai'r goruwchnaturiol, yn chwarae rhan bwysig yn yr ymgais i ddeall y byd o'n cwmpas a byddai melltith gwrach, ymyrraeth ddwyfol a bodau o'r 'arallfyd' cystal a dim fel eglurhad.

Mae ein dealltwriaeth o sut mae'r byd yn gweithio yn dra gwahanol heddiw. I werthfawrogi hynny 'does ond angen inni edrych ar y maes meddygol a sut y taflodd gwyddoniaeth oleuni llachar ar achosion pob mathau o glefydau. Newidiodd pethau yn gyfangwbl bron pan edrychodd Louis Pasteur i lawr ei feicrosgop ar sylweddau llidiol oedd yn gysylltiedig â gwahanol afiechydon a chael y weledigaeth bod cyswllt rhwng rhai o'r cyfryw afiechydon â meicrobau neu facteria penodol. Dyma un o'r darganfyddiadau pwysicaf yn hanes meddygaeth am iddo chwyldroi ein dealltwriaeth o achosion rhai mathau o heintiau ac, ymhen amser, ein syniadau am rôl meicrobau yn y byd byw yn gyffredinol.

Beth am gael golwg ar rai o'r esboniadau anwyddonol i glefydau meicrobaidd. Mae'n ddifyr bod arlliw o ambell un yn dal yn fyw yn ein llên gwerin hyd heddiw.

Sws Bwgan neu Wrach golygu

Os digwyddai anffawd neu afiechyd anesboniadwy byddai'n demtasiwn o'r mwyaf i chwilio am rywun i roi'r bai arno, neu arni.

Enw a glywais yn Llŷn ar ddolur annwyd ar y gwefusau ac sy'n cael ei achosi gan y feirws Herpes simplex yw 'sws bwgan'; engraifft dda o briodoli afiechyd, er yn wamalus, i ryw greadur goruwchnaturiol. Tebyg ei ystyr yw'r sylw a glywais yn Nyffryn Nantlle (yn fy nyddiau ysgol) am fachgen ifanc a phloryn llidus ar ei en, yn cael ei achosi gan Propionibacterium acnes mae'n debyg: “Wyt ti wedi bod yn swsian efo ryw hen wrach d'wad?”

Yr Hen Wrach golygu

Hyd at ddiwedd y 19eg ganrif roedd clefyd a elwid Yr Hen Wrach yn stelcian ardal Cors Fochno yng Ngogledd Ceredigion. Byddai'n cuddio yn y niwl ac yn rhoi cryd arbennig a elwid 'y cryndod' i drigolion Taliesin, Borth a Thre'r Ddol. Dyma ddywed y Parch Evan Isaac amdani:[1]

'Bu preswylwyr Tre' Taliesin… am genedlaethau yn gaeth i ofn yr Hen Wrach, ac er pob gwylio a gochel delid hwy ganddi - pob un yn ei dro. Ni ddihangodd oddiar ei melltith na dyn mewn oed na phlentyn. Yr oedd yn gwbl ddidrugaredd… Yr unig beth â chysgod y da ynddo y gellir ei ddywedyd yn ei ffafr ydyw, ei bod yn hollol amhleidiol, oblegid nid arbedai oludog yn fwy na thlawd, y call yn fwy na'r angall. Melltithiai bawb.

Ni ddeuai byth o'i chartref namyn yn nhrymder nos, a rhaid fyddai wrth nos dywyll a niwl tew. Cymaint oedd ei chywilydd rhag ei gweled, gan ei hacred, fel na symudai liw dydd nac yng ngolau'r lloer. Gan nad oedd brinder niwl a tharth ym mlynyddoedd rhwysg yr Hen Wrach, câi gyfleusterau mynych i droi allan, ac mor ddieflig oedd ei nwyd a'i gwanc fel mai anaml yr â'i cyfle heibio iddi'n ofer. Clywais i Fetsen, Llain Fanadl, ei gweled unwaith. Preswyliai Betsen fwthyn bregus ar fin y gors, ac un nos lwyd-olau a hi'n dychwelyd i'w thŷ o gasglu bonion eithin i achub tân trannoeth, gwelai ar ei chyfyl, yn eistedd ar dwmpath hesg, wraig hen â phen anferth ei faint, a'i gwallt cyn ddued â muchudd yn disgyn yn don fawr a thrwchus tros ei chefn ac yn ymgasglu yn glwstwr ar y ddaear. Swpera yr oedd ar ffa'r gors a bwyd llyffaint. Ar ei gwaith yn myned heibio, cyfarchodd Betsen hi â "Nos da". Neidiodd y Wrach ar ei thraed - yr oedd yn llawn saith droedfedd o daldra, ac yn denau ac esgyrnog a melyngroen - a throi at Fetsen ac ysgyrnygu arni ddannedd cyn ddued a'r afagddu, chwythu i'w hwyneb fel y chwyth sarff, a diflannu yn y gors. Dywedir na fu Betsen byth yr un ar ôl y noson honno.

Ar nos dywyll creai'r wrach darth tew a llaith a ymdaenai fel mantell a chyrraedd i oedre'r Graig Fawr, ac yn y tywyllwch pygddu hwnnw âi i fyny i'r pentref, ac er pob dyfais a gofal i'w chau allan, mynnai ei ffordd yn llechwraidd i'r tŷ a ddewisai, a chyniwair y tŷ hyd oni ddelai i ystafell gysgu, ac yno chwythu ei melltith ar y sawl a gysgai. Deffroai'r truan hwnnw drannoeth o gwsg anniddig, llawn o ysbrydion mileinig, a'i gael ei hun yn llesg a chlaf a digalon. Ymhellach ymlaen yn y dydd deuai'r crynu, ac am awr gyfan crynai'r claf oni chrynai'r gwely yntau - awr gron o grynu heb na hamdden na gallu i siarad na chwyno na dim ond crynu. Unwaith bob pedair awr ar hugain y deuai'r crynu, ac awr yn ddiweddarach bob dydd. Parhai felly am wyth neu ddeng niwrnod, a phan ballai grym y clefyd, a'r claf wedi troi ar wella, ceid diwrnod rhydd rhwng dau grynu, ac yna ddau ddiwrnod rhydd, ac wedyn dri, a'r dyddiau rhydd yn parhau i gynyddu hyd oni ddiflannai'r cryndod yn llwyr. Anfynych y digwyddai i neb farw o'r Hen Wrach, ond y mae rhesymau tros gredu yr amharai'r afiechyd gymaint ar nerfau'r claf fel y dioddefai i ryw raddau yn y pethau hynny ar hyd ei oes.

Deugain mlynedd yn ôl peidiodd y cryd, ac ni flinwyd ganddo neb o'r pentrefwyr byth wedyn, a chredwyd yn sicr farw o'r Hen Wrach yng ngaeaf y flwyddyn y diflannodd yr afiechyd. Yn gyfamserol â'i marw hi bu llawer o gyfnewidiadau ym mywyd yr ardal, ac yn eu plith roddi heibio losgi mawn, a defnyddio glo yn eu lle.'

Tybir erbyn hyn mai 'y deirton' neu Malaria a achosir gan organeb microbaidd o deulu Plasmodium, oedd Yr Hen Wrach ac y byddai yn cael ei drosglwyddo gan wybed neu fosgitos fyddai'n magu yn y gors. Roedd Malaria yn endemig i gorsydd arfordirol gwledydd Prydain ar un adeg, e.e. roedd yn dal yn Norfolk, fel yng Nghors Fochno, hyd ddiwedd y 19g.

Llun - Mosgito o deulu Anopheles yn bwydo. Rhain sy'n trosglwyddo Malaria i bobl (llun: Google immages) Sylwch bod yr enw Malaria yn tarddu o'r Lladin: 'mal-', drwg ac '-aria', awyr. Roedd cred y gallai 'aer ddrwg' achosi clefydau. Dim rhyfedd ein bod ni, y Cymry, yn gwerthfawrogi awyr iach.

Cosb ddwyfol golygu

Mae'r syniad o gosb am dramgwyddo yn erbyn y drefn ddwyfol neu esgeuluso eich dyletswyddau crefyddol yn hen iawn. Gwelwn yn Llyfr Ecsodus i'r Arglwydd osod deg pla ar yr Eifftiaid am i Ffaro wirion wrthod rhoi eu rhyddid i'r Iddewon. Roedd dau o'r plaon hyn yn afiechydon: y pumed pla yn lladd anifeiliaid yn y meusydd – ceffylau, asynod, gwartheg, defaid a geifr[2] a'r chweched pla yn achosi cornwydydd llidus ar bobl ac anifeiliaid.[3]

Pan ddaeth 'y frech fawr', 'y pocs', neu 'y clwyf drwg' (Syphylis) i Ewrop o dde America, a hynny mae'n debyg gyda dychweliad Columbus wedi ei fordaith yn 1494, hawdd iawn oedd priodoli'r afiechyd erchyll hwn, a achosir gan y bacteriwm Treponema pallidium, i felltith ddwyfol. Cosb yn sicr am anfoesoldeb. Hydnoed ar ddiwedd yr 20fed ganrif clywais un â barn homoffobaidd yn priodoli HIV/Aids i gosb ddwyfol am arferion rhywiol 'annaturiol'.

Llun - Y darluniad cyntaf o'r 'frech fawr', Vienna, 1498 (ffeiniwch lun o: Comin Wicipedia).

Y Fad Felen golygu

Oni laddwyd Maelgwn Gwynedd gan y Fad Felen am iddo edrych drwy dwll clo Eglwys y Rhos ger Deganwy i le'r oedd wedi dianc yn y flwyddyn 547 am noddfa? Methodd Maelgwn a dal rhag edrych drwy dwll y clo a dyna pryd y gwelodd y Fad o, a'i ladd yn y fan a'r lle. Ceir sawl cyfeiriad at y Fad Felen yn y Canol Oesoedd a dywedir iddi gymryd ffurf un ai sarff gribog neu merch brydferth. Gallai ei hedrychiad ladd fel y gallai, yn chwedloniaeth Groeg, y Mediwsa erchyll â seirff iddi'n wallt droi unrhyw un a edrychai arni yn garreg. Nid oes sicrwydd be oedd y Fad Felen ond y tebygrwydd yw mai y Pla Du, oedd ar gerdded yn Iwerddon a Chymru ar y pryd, oedd hi mewn gwirionedd[4]. Gallai'r Pla fel sawl clefyd heintus arall effeithio ar yr iau, sy'n cyfri am liw melyn y dioddefwr. Yn ddifyr iawn geir rhyw awgrym o sut yr ymledai'r Fad ym mhroffwydoliaeth Taliesin Fardd:

'Fe ddaw pry rhyfedd o Forfa Rhianedd
I ddial anwiredd ar Faelgwyn Gwynedd.'

Pry, neu 'Gyfarwydd' yn gyfrwng melltithio golygu

Tybed pa fath o bry ddaeth a dialedd ar Faelgwyn druan? Gwyddwn heddiw mai chwain o lygod mawr sy'n lledu'r bacteriwm Yersinia pestis sy'n achosi'r Pla Du.

Yn yr Oesoedd Canol ystyrid pry fel un o'r cyfarwyddiaid, neu imp, ddefnyddid gan wrach i drosglwyddo melltith. Sonir am hyn yn yr achos Llys yn erbyn Gwen ferch Elis yn Ninbych yn 1594-5 pan ganfyddodd y beili Robert Evans bry mawr yn nofio yn y cwrw gynigiodd Gwen iddo. Pan dorrodd y beili ei fraich fythefnos yn ddiweddarach cyhuddwyd Gwen o ddefnyddio'r pry i'w felltithio. Un rhan o gorff o dystiolaeth yn ei herbyn oedd hyn ond y canlyniad oedd iddi gael ei dedfrydu'n euog o wrachyddiaeth a'i chrogi[5] Erbyn hyn rydym yn gwybod yn iawn bod pryfed yn trosglwyddo heintiau. Efallai bod yr hen bobl yn gwybod hynny hefyd ond ddim ym mha fodd. Melltith iddyn nhw, meicrob i ni, dyna'r newid fu yn ein dealltwriaeth.  

Cyfeiriadau golygu

  1. Coelion Cymru, Y Parch Evan Isaac (1938), tud. 42-49.
  2. Ecsodus 9: 1-7
  3. Ecsodus 9: 1-7
  4. 9: 8-12
  5. A History of Magic and Witchcraft in Wales, Richard Suggett (2008)