Defnyddiwr:Twm Elias/Pry cop: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
Llên Gwerin a Byd Natur
 
gan Twm Elias
 
6 – Pry cop / Coryn
 
 
==Ffobia neu'r ofn pryfed cop==
Onid ydi’nydi'n beth rhyfedd, sut mae rhai, merched yn bennaf, yn casau ac ofni pryfed cop (corynod yn y de), tra bo eraill yn eu gweld yn greaduriaid difyr dros ben. ’Dwn'Dwn i ddim sawl gwaith y galwyd arnaf i hebrwng ryw gopyn druan o’ro'r bath neu o stafell wely un o’ro'r merched acw. Y copyn hirgoes yn yr ystafelloedd gwely fel arfer – mae o yn arbenigo mewn adeiladu ei we bler uwchben neu y tu ôl i’ri'r wardrob. Waeth imi heb a dweud bod y copyn yn ffrind ac yn dal pryfed ar ein rhan. Caiff ei fygwth â’râ'r Hwfyr fel arfer ac mae’nmae'n gas gen i feddwl am y creadur bach yn cael ei sugno i ddifancoll llychlyd yng nghrombil peth felly.
 
==Pry copyn dof==
Fe oedd gen i, a Ian Post, ffrind imi yn ysgol bach Clynnog ers talwm, bry copyn dof – wel, yn ein tyb ni beth bynnag. Roedd ganddo fo dwnnel mawr o we mewn twll yn wal y Post – ac yn fanno y bydda fo’nfo'n llechu – yn barod i neidio allan i ddal unrhyw bry fyddai’nfyddai'n ddigon anffodus neu wirion i lanio ar y llwyfan o we oedd o flaen y twll.
 
Roedd hwn yn anferth o bry copyn mawr blewog, a ninnau yn cael hwyl yn ysgwyd y we’nwe'n ofalus efo blaen gwelltyn i efelychu pry wedi mynd yn sownd. Ac fe fyddai’rfyddai'r hen gopyn yn rhuthro allan i chwilio am ei ginio! Ond buan iawn y daeth o i dd’alltdd'allt mai tric oedd y cyfan – a chymera fo ddim sylw o welltyn wedyn. Weithiau fe fyddem yn rhoi pry byw ar y we ac yn rhyfeddu pa mor ddyheig oedd y copyn yn lapio’ilapio'i brae mewn pelen o we cyn mynd ati i’wi'w sugno’nsugno'n sych.
Ond yr hwyl mwya’mwya' oedd dal pry copyn arall – a’ia'i daflu ar y we a phroc iddo nes byddai’nbyddai'n dianc i lawr y twnnel at y llall. Wel dyna le wedyn! Y ddau’nddau'n rhedeg allan ac fe fydda ’na'na andros o ffeit! Ein copyn ni fyddai’nfyddai'n ennill bob tro – hydnoed os byddai’rbyddai'r llall yn fwy nag o. Mae rhywun yn brwydro’nbrwydro'n ffyrnicach i amddiffyn ei dir ei hun yndydi?       
 
==Y pry cop mewn llenyddiaeth==
Hen rigwm:
:Fe welais Sian Elin,
:Yn yfed llaeth enwyn<ref>Neu 'laeth melyn' mewn fersiwn o’ro'r De</ref>  
:Yn eistedd ar ymyl y bwrdd,
:Ond fe ddaeth ’na'na bry copyn,
:Ac yfed pob dropyn,
:A rhedodd Sian Elin i ffwrdd!
 
Druan ohoni! Petae hi ddim wedi panicio, e’llae'lla y buasa hi wedi cael addysg fuddiol. Yn lle meddwl mai rhywbeth erchyll oedd yno, fe ddylsai fod wedi gwerthfawrogi gwir grefftwr yn ei waith. Mae gwylio pry copyn yr ardd yn stofi (adeiladu) gwe, tua llathen ar ei draws, yn cynnwys ugeiniau o lathenni o we mewn patrwm sbeiral, efo hyd at 1,000 o gysylltiadau i ddal y rhwydwaith at ei gilydd, a gorffen y cwbwl mewn llai na awr – yn rhyfeddol onid yw?
Mae yna englynion, rai ohonynt bron mor gain â gwe gywrain y copyn. Be am y rhain, sy’nsy'n dangos celfyddyd arbenig iawn:
 
::::Y Pryf copyn
:Hy yw ef; â hoyw afiaith – gwea’ngwea'n gylch
:::Ei gain gamp o rwydwaith,
::A’iA'i nod yw na edy’iedy'i waith
::Heb ei orffen yn berffaith.   
 
:::JH Griffiths, Goginan (Ystranciau y Pryf-Gopyn: englyn odl gudd)<ref>‘O’n'O'n cwmpas’cwmpas', gan Elizabeth C Ellis, Lleu 423 (Medi 2011)</ref>
 
:Ha! gwelaf rhyngwyf a’ra'r gole’gole', – strydoedd
:::Cast rhwydawl dy loches;
::Trwy y nos pentyrru wnest
::Reffynau nes toi’rtoi'r ffenestr.
 
Mae’rMae'r englyn hwn gan Gwydderig yn nodedig oherwydd y clyfrwch sydd ynddo wrth greu odlau (er mwyn odli’nodli'n llawn â’râ'r gair ffenestr, mae diwedd pob llinell o gynghanedd yn benthyca cytseiniaid o ddechrau’rddechrau'r llinell nesaf e.e. gole’gole'... ...str)<ref>Diolch i Myrddin ap Dafydd am ddatgelu’rddatgelu'r odl gudd</ref>. A beth am yr englyn anhysbys isod<ref>The Welsh and Their Literature, George Borrow (1860). Diolch i’ri'r Prifardd Ieuan Wyn am fersiwn gywir o’ro'r englyn</ref> a arferai fod yn rhan o repertoire yr anfarwol Pontshan ar un adeg. Mae’nMae'n dyddio o’ro'r ddeunawfed ganrif ac yn unigryw am ei fod yn llafariaid i gyd heb yr un cytsain ar ei gyfyl:
 
::::O’iO'i wiw wy i weu e’e' â, – a’ia'i weau
::O’iO'i wyau e weua;
:E’E' weua ei we aea’aea',
:A’iA'i weau yw ieuau iâ.
 
==Lwc ag anlwc ==
 
Waeth imi heb a son chwaith bod cael pry copyn yn y tŷ yn beth lwcus ac os yw’nyw'n cerdded dros rywun y daw arian o rywle yn fuan neu eu bod yn mynd i gael dillad newydd. Na, fydd dadleuon o’ro'r fath yn tycio dim ac erbyn hynny mi fydda i, yn ogystal a’ra'r copyn, yn cael fy mygwth!
Mae’nMae'n hen grêd bod lladd pry cop yn beth anlwcus. Rhai yn credu os gwnewch chi hynny fe ddaw i fwrw glaw ac, yn yr Alban, y byddwch yn torri rhyw lestr yn y tŷ cyn diwedd y dydd. Ar y llaw arall, mae pry cop yn disgyn ar eich wyneb yn y nos yn beth lwcus ofnadwy. Ac os rhedith un ar draws eich dillad – mae’nmae'n addewid y cewch ddillad newydd.
 
Mae’nMae'n beth lwcus iawn hefyd i hogyn neu hogan ifanc weld pry cop ar eu ffordd i’ri'r Eglwys i briodi – fe gânt briodas hapus a llewyrchus.
 
==Llên Gwerin==
===Y we achubol===
Ond, wrth lwc, mae ’na'na lawer o bobol yn gwerthfawrogi pryfid cop ac yn eu gweld yn bethau lwcus iawn. Mae ’na'na son bod pryfid cop wedi achub bywydau y baban Iesu, Momammed a Fredrick Fawr, brenin Awstria. Mae’rMae'r tair stori’nstori'n eitha tebyg – e.e., yn achos yr Iesu, bod Joseff a Mair a’ra'r plentyn bach wedi cuddio mewn ogof rhag milwyr Herod – ac am fod pry copyn wedi adeiladu gwe ar draws ceg yr ogof, bod y milwyr wedi meddwl nad oedd neb yno.
A beth am stori Robert y Briws yn yr Alban? Roedd Robert, tua 1306 neu ’07'07, tra’ntra'n brwydro am annibyniaeth yr Alban, wedi gorfod ffoi o grafangau’rgrafangau'r Saeson ac wedi llochesu, yn ôl y stori, mewn ogof – Eglwys oedd ei guddfan mewn gwirionedd. Yno bu’nbu'n gwylio pry copyn yn ceisio a cheisio dringo i fyny edefyn hir o we (neu geisio swingio ar draws bwlch i godi ei we yn ôl fersiwn arall). Ceisio a methu, ceisio a methu, ac yna, ar y seithfed cynnig, fe lwyddodd. Roedd hynny’nhynny'n ysbrydoliaeth i Robert i beidio digaloni ar ôl methu y tro cynta – felly dyfal donc amdani, ac yn y diwedd fe lwyddodd i uno’iuno'i gyd-Albanwyr, trechu’rtrechu'r Saeson, a rhyddhau yr Alban! Da iawn fo.
 
===Arwyddion tywydd===
Mae’rMae'r math o we y mae’rmae'r copyn yn ei stofi yn cael ei ystyried yn arwydd tywydd – h.y., gwe ar edefeuon byr – fe ddaw’nddaw'n wynt a glaw, ond gwe ar edefeuon hir – fe frafith. Ceir math arall o we gan bryfed cop bychain sy’nsy'n taenu edefeuon main a elwir yn ‘edafedd'edafedd gwawn’gwawn' (y gogledd) neu ‘blew'blew Medi’Medi' a ‘drifl'drifl yr ych’ych' (Ceredigion) ar wyneb y borfa. Bydd wyneb y cae yn sgleinio pan adlewyrcha goleuni’rgoleuni'r haul ar y gwawn a cheir sawl dywediad am hynny<ref>''Am y Tywydd'', T. Elias (2008) </ref>:
*Edafedd gwawn – braf (Llŷn)
*Gwanwyn a gwawn – llogell yn llawn (Buellt)
Llinell 65 ⟶ 67:
 
===Meddyginiaethau===
Ac mae gwe pry cop yn ddefnyddiol yn feddyginiaethol hefyd. Mae bwyta pelen o we wedi ei rowlio’nrowlio'n bilsen yn dda i wella’rwella'r asthma. Ond y defnydd mwya cyffredin o’ro'r gwe oedd i atal llif gwaed o friw – y gwe trwchus hwnnw sy’sy' fel tiwb mewn twll yn y wal ydy’rydy'r gorrau – i’wi'w daenu dros y briw, a bandej drosto – mae’nmae'n helpu i geulo’rgeulo'r gwaed ac i ladd bacteria hefyd.
 
==Cyfeiriadau==