Defnyddiwr:Twm Elias/Chwanen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Llên Gwerin a Byd Natur gan Twm Elias Chwain   (7) ==Llên gwerin== Mae nhw’n dweud bod chwain yn greaduriaid mathemategol iawn: ‘…yn adio at...'
 
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 4:
 
Chwain   (7)
 
==Llên gwerin==
Mae nhw’n dweud bod chwain yn greaduriaid mathemategol iawn: ‘…yn adio at eich annifyrwch, yn tynnu oddiar eich pleser, ’dach chi’n gorfod rhannu eich gwaed efo nhw ac mae’r diawliaid bach yn lluosogi fel y cythra’l!’<ref>Owain Elias, Nebo (2012).</ref>
 
===Natur grafog===
Testyn go grafog y tro hwn, sef chwain neu ‘blacs’ fel y’u gelwid gan rai, oherwydd eu lliw tywyll mae’n rhaid.  Bu’r chwannen yn gydymaith i ddyn, a dynes, ers cannoedd o filoedd o flynyddoedd – ymhell cyn i’r ddynoliaeth ddatblygu yn y lle cyntaf. Mewn gwirionedd mae teulu’r chwannen wedi esblygu i fanteisio ar bron pob rhywogaeth o famal (heblaw morloi a morfilod) ac adar hefyd – ceir tua 60 o wahanol rywogaethau o chwain yn ynysoedd Prydain yn unig. Mae gan rai ohonynt fywydau digon difyr – wel, difyr i’r naturiaethwr neu chweinwr sy’n ymddiddori yn y math yna o beth, mae’n siwr.  
Bydd chwain wenoliaid, er enghraifft, yn aros yn y nythod pan fydd yr adar yn ymfudo dros y gaeaf ac yn aros yn awchus am eu dychweliad yn y gwanwyn. Bydd chwain cwningod  yn amseru deoriad yr wyau i’r union adeg y bydd y cywion gwningod yn cael eu geni, rhag methu’r cyfle. Ac o son am amseru, mae wyau chwain cathod yn yn ymateb mor gyflym i sŵn traed cath yn cerdded nes y gallant ddeor, fel bo’r chwanen ifanc yn barod i neidio, cyn gynted a bo’r gath o fewn cyrraedd. Draenog ydi’r creadur mwya chweinllyd – ceir achosion o ddraenog yn cario hyd at 7,000 o chwain<ref>Bugs Britannica, Peter Marren a Richard Mabey (2010), tud. 147 </ref>. Y twrch daear sy’ â’r chwannen fwyaf: hyd at un wythfed o fodfedd. Ond yng ngogledd America y ceir y chwannen fwyaf o’r cyfan – yn chwarter modfedd!
 
 
===Llên werin===
 
Mae nhw’n dweud bod chwain yn greaduriaid mathemategol iawn: ‘…yn adio at eich annifyrwch, yn tynnu oddiar eich pleser, ’dach chi’n gorfod rhannu eich gwaed efo nhw ac mae’r diawliaid bach yn lluosogi fel y cythra’l!’<ref>Owain Elias, Nebo (2012).</ref>
 
Bu chwain pobl (Pulex iritans) yn gydymdeithwyr selog â ni ar hyd y canrifoedd ac er iddynt fynd yn bethau go brin erbyn hyn, diolch am hynny, maent yn sicr wedi gadael eu hargraff arnom.  Nid yn unig ar ffurf smotiau bach coch, coslyd, lle buon nhw’n gwledda ar ein gwaed ni, ond ar ein llên gwerin a’n llenyddiaeth yn ogystal. Dyma ychydig o enghreifftiau:
Deialog rhwng dau was – yn y dyddiau pan fyddai gweision ffermydd yn aros yn y llofft stabl byddai rhai o wahanol ardaloedd yn cyd-letya. Mae’n debyg mai dyma ysgogodd y rhigwm gan un o Forfa Nefyn oedd wedi cael profiad go chweinllyd yn Aberdaron ryw dro, a’r ateb gafodd o gan was arall oedd yn digwydd dod o’r cyfryw le:
Llinell 23:
Yn y gaeaf roedd yn arferiad i’r un oedd yn cyrraedd oddi ar ei stem i lithro i wely cynnes y sawl oedd  yn ymadael i’w waith. Golygai hynny bod y gwlau ar ddefnydd rownd y rïl – ac yn fagwrfa i chwain. Mae gan Ioan Brothen, fu’n preswylio yma am gyfnod, englyn enwog sy’n disgrifio’r profiad<ref>Llinell neu Ddwy, Ioan Brothen (19..) </ref>
 
::Hunnais a blin oedd hynny – yn fy oer
::::Annifyraf lety
::A theimlo brath aml i bry
::Ar waelod y budr wely.
 
Un arall fu’r preswylio yma ddechrau’r [[1930au]] oedd Rol Williams, a dyma sut mae’n disgrifio’r croeso gawsai fore Llun pan gyrhaeddai’r Barrics i gadw’i ddillad a thipyn o fwyd at yr wythnos cyn mynd dan ddaear i’w waith: “…a fanno fyddan nhw, ar stepan drws yn aros amdanat ti, efo’u tafodau allan – ddim wedi cael diferyn o waed ers bora Sadwrn”<ref>Atgofion John Hughes y Wern, gol. Marian Elias (19..) </ref>.
Ond wedyn, mae angen perspectif yndoes. Pan adroddais i’r uchod wrth griw Crwydriaid Crwbin ar ymweliad â’r safle beth amser yn ôl, sylw un ohonynt – Donald Williams Bancffosfelen, oedd: “Whain? Whain myn yffach i? Lligod mowr o’dd yn ein poeni ni yn y pylle glo! ”  
 
Cerddi crafog – mae