Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bithynia"

Ychwanegwyd 614 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
brenhinoedd
(cat)
(brenhinoedd)
 
Yn ôl haneswyr fel [[Herodotus]], [[Xenophon]] a [[Strabo]], llwyth [[Thrace|Thraciaidd]] oedd y Bithyniaid yn wreiddiol. Roedd yr ardal yn rhan o deyrnas [[Lydia]] dan y brenin [[Croesus]], yna dan reolaeth yr [[Ymerodraeth Bersaidd]] pan orchfygwud Croesus gan y Persiaid. Mae'n ymddangos eu bod wedi dod yn deyrnas annibynnol hyd yn oed cyn i [[Alecsander Fawr]] orchfygu Persia.
 
Bu cyfres o frenhinoedd ar y deyrnas annibynnol:
 
*[[Zipoites I, brenin Bithynia|Zipoites I]] 328-279 CC
*[[Nicomedes I, brenin Bithynia|Nicomedes I]] 279-255 CC
*[[Zipoites II, brenin Bithynia|Zipoites II]] 279-276 CC
*[[Etazeta, brenin Bithynia|Etazeta]] (llywodraethwr) 255 CC
*[[Ziaelas, brenin Bithynia|Ziaelas]] 255-228 CC
*[[Prusias I, brenin Bithynia|Prusias I]] 228-185 CC
*[[Prusias II, brenin Bithynia|Prusias II]] 185-149 CC
*[[Nicomedes II, brenin Bithynia|Nicomedes II]] 149-128 CC
*[[Nicomedes III, brenin Bithynia|Nicomedes III]] 128-94 CC
*[[Nicomedes IV, brenin Bithynia|Nicomedes IV]] 94-75 CC
 
Daeth y brenin olaf, [[Nicomedes IV, brenin Bithynia|Nicomedes IV]], dan fygythiad o du [[Mithridates VI, brenin Pontus]], a bu raid iddo ddibynnu ar fyddin [[Gweriniaeth Rhufain]] i'w adfer i'w orsedd. Pan fu farw yn [[74]] OC, gadawodd ei deyrnas i Rufain yn ei ewyllys.
37,236

golygiad