Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ogof Paviland"

Ychwanegwyd 173 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
chwaneg
(chwaneg)
[[Ogof]] cynhanesyddol ger [[Rhosili]] ar y [[Gŵyr]] yw '''Ogof Paviland''' (neu '''Ogof Pen-y-Fai'''). Yn gywirach mae'n gyfres o ogofâu cysylltiedig a fu'n gartref i ddynion filoedd o flynyddoedd cyn Crist. Darganfuwyd yno fwyeill llaw o [[Oes yr Hen Gerrig]], dannedd [[blaidd|bleiddiaid]] ac esgyrn [[arth|eirth]].
 
Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd [[sgerbwd]] corff dynol o Oes yr Hen Gerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pafiland". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac [[archaeoleg]]ydd cynnar [[William Buckland]] yn [[1823]] yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21 oed ydyw. Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ''ochre'' coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (''Homo sapiens sapiens'') hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn [[Ewrop]] i gyd. Cafwyd [[penglog]] [[mamoth]] yn ei ymyl ond yn anffodus mae hynny ar goll erbyn hyn.
==Cysylltiad allanol==
*[http://www.gtj.org.uk/cy/item10/8642 Ogof Paviland], Casglu'r Tlysau
*[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7130000/newsid_7130800/7130868.stm Erthygl am y darganfyddiau diweddaraf am y sgerbwd ar safle BBC Cymru]
 
{{eginyn Cymru}}