Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Isabelle o Ffrainc"

Ychwanegwyd 1,337 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
B (robot Adding: el, eo, fi, nl Modifying: es)
(ehangu)
[[Delwedd:Braveheart4.jpg|200px|bawd|Sophie Marceau yn rhan Y Dywysoges Isabelle yn y ffilm ''[[Braveheart]]'']]
Brenhines [[Edward II o Loegr]] oedd '''Isabelle o Ffrainc''' neu '''Isabelle de France''' ([[1295]] - [[22 Awst]], [[1358]]).
 
==Hanes==
Cafodd Isabelle ei geni ym [[Paris|Mharis]], yn ferch i'r brenin [[Philippe IV, Brenin Ffrainc|Philippe IV]] ac yn chwaer i dri o frenhinoedd [[Ffrainc]].
 
A hithau'n ferch 14 oed, bu rhaid iddi briodi [[Edward II o Loegr]], mab y brenin [[Edward I o Loegr|Edward I]], yn 1308. Diflasodd yn llwyr ar ei ŵr ar croeso llugoer a gawsai yn llys Lloegr, a dychwelodd i Ffrainc yn 1325 ar ôl i'w frawd [[Siarl IV o Ffrainc]] gipio llawer o diriogaethau'r Saeson yn Ffrainc.
===Plant===
 
Syrthiasai mewn cariad â'r barwn [[Roger de Mortimer]] (Iarll [[y Mers]] yn ddiweddarach) tra yn Lloegr, ac yn 1326 arweiniodd Isabelle fyddin i Loegr. Trechodd fyddin Edward II a gorfododd iddo ildio gorsedd Lloegr i'w mab, [[Edward III o Loegr|Edward]], a oedd yn fwy derbyniol i'r barwniaid. Rheolodd Isabelle a'i chariad Roger de Mortimer yn enw Edward, a oedd yn rhy ifanc i fod yn frenin. Yn 1327 llofruddiwyd Edward yng Nghastell Berkeley, ar orchymyn Roger ac Isabelle yn ôl pob tebyg.
 
Ond pan ddaeth Edward i'r orsedd fel Edward III, trôdd ar ei fam a Mortimer a chawsant eu harestio. Dienyddwyd Mortimer yn y ffordd erchyll arferol ar gyfer y rhai a ystyriwyd yn fradwyr a gorfodwyd Isabelle i ymneilltuo i gwfent yn [[Castle Rising]], ger [[King's Lynn]], lle bu aros am weddill ei dyddiau.
 
===Plant===
*[[Edward III, brenin Lloegr]]
*John
*Eleanor
*Joan
 
==Ffuglen==
Mae Isabell yn gymeriad canolog yn y ffilm ''[[Braveheart]]'' lle mae'n cael ei phortreadu fel cariad [[William Wallace]].
 
 
[[Categori:Tywysogesau Ffrainc]]
[[Categori:Pobl o Baris]]
[[Categori:Brenhinoedd a breninesau Lloegr]]
[[Categori:Genedigaethau 1295]]