Llechfaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd to llechi
Llinell 19:
**Nid yw llechfaen yn dargludo trydan, cyhyd â bod lefel y sylffwr yn y graig yn ddigon bach. Defnyddid slabiau o lechfaen fel ynysydd ar fyrddau switsis trydan, cyn bod defnyddiau eraill wedi eu datblygu at y pwrpas hwn. <ref>Bob Owen, ''Diwydiannau Coll Ardal y Ddwy Afon – Dwyryd a Glaslyn'', t.33 (Gwasg y Brython ar gyfer Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, 1943)</ref>
**Gan nad yw llechfaen yn llosgi nac yn cario gwres yn rhwydd, defnyddir slabiau o lechfaen i wneud byrddau biliards, meinciau mewn labordai ac mewn lleithdai.
**Oherwydd nad yw'n adweithio'n gemegol defnyddir llwch llechfaen fel llanwr mewn amryw o gynhyrchion; e.e. paent, glud, bitwmen, ffelt to, pryfleiddiaid, enamel ar beipiau tanforol. <ref>J Elwyn Hughes a Bryn Hughes. 1979. ''Chwarel y Penrhyn, Ddoe a Heddiw''. Chwarel y Penrhyn Cyf.</ref>
**Defnyddid llechi gan ddisgyblion yn lle papur ysgrifennu o'r 18fed ganrif hyd at ddechrau'r 20fed ganrif. Rhoid ymyl o bren am y lechen, a defnyddid pensilau plwm i ysgrifennu arnynt, gan lanhau'r lechen a'i hail-ddefnyddio dro ar ôl tro. Cynhyrchid llechi ysgrifennu gwag, rhai llinellog, llechi â sgwariau arnynt, a llechi gyda mapiau arnynt. O lechfaen y gwnaed byrddau duon hefyd. <ref> [http://www.llechicymru.info/writingslates.cymraeg.htm Llechi ysgrifennu - Llechwefan] – adalwyd ar 2 Rhagfyr 2007</ref>
**Defnyddir llechfaen wrth gynhyrchi addurniadau, gwaith crefft a cherflunio, gan gynnwys gwaith enamlo llechi.
 
 
==Gweler hefyd==