Simon y dewin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Nucci, Avanzino - Petrus' Auseinandersetzung mit Simon Magus - 1620.jpg|bawd|Paentiad olew gan Avanzino Nucci o Simon y dewin (mewn gwisg ddu) yn cynnig ei arian i Bedr (1620).]]
Cymeriad [[Y Beibl|Beiblaidd]] a geisiodd brynu doniau'r [[Ysbryd Glân]] oddi ar yr Apostolion [[Sant Pedr|Pedr]] ac [[Ioan yr Apostol|Ioan]] yw '''Simon y dewin''' ({{iaith-la|Simon Magus}}, o'r [[Hen Roeg (iaith)|Hen Roeg]] μάγος, a fenthycid yn y bôn o'r [[Perseg|Berseg]] sy'n golygu dewin, swynwr neu [[astroleg]]wr). Traddodai ei hanes yn wythfed bennod [[Actau'r Apostolion]] yn [[y Testament Newydd]]. FeNi ymddengys y gair μάγος yn y testun [[Coine]] gwreiddiol, ond fe'i elwid yn ddewin neu'n swynwr am iddo arfer [[swyngyfaredd]] (μαγεύων). Gwelodd Simon yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl ac yn rhoddi iddynt nerth yr Ysbryd Glân, ac fe anogodd hwy i werthu'r gallu hwn iddo. Câi'r cynnig ei wrthod gan Bedr sy'n rhybuddio Simon rhag pechu drwy geisio prynu rhodd [[Duw]].
 
Adnabyddir y cymeriad Beiblaidd â ffigur hanesyddol o'r enw Simon, ocwltydd [[Samariaid|Samariaidd]] o bentref Gitta yn byw yn y 1g. Sonir amdano mewn ysgrifau sawl hanesydd Cristnogol cynnar, ac ymddengys hefyd mewn ambell llyfr yr [[Apocryffa]]. Cydnabuwyd Simon yn sylfaenydd [[Gnostigiaeth]] ac yn athro dysgeidiaeth sy'n groes i'r eglwys foreol gan arddel [[deuoliaeth]] grefyddol ac [[iachawdwriaeth]] drwy wybodaeth gyfrinachol. Athrawiaeth Simon felly yw'r [[heresi]] wreiddiol yn ôl y traddodiad Cristnogol.
Llinell 12:
|source=— Actau 8:18–24<ref>[http://www.beibl.net/beibl-chwilio?pennod=8&book=BNET%3AActs&viewid=BNET%3AActs.8&newwindow=BOOKREADER&math= Actau 8], beibl.net. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.</ref> }}
Cyflwynir ef i'n sylw gyntaf yn y Beibl fel un yn arfer swyngyfaredd yn un o ddinasoedd [[Samaria]] – Sichar hwyrach – a chyda'r fath lwyddiant fel y dywedwyd amdano, "Mawr allu Duw yw hwn" (Actau 8:10). Gan fod pregethau a gwyrthiau [[Philip yr Efengylydd]] wedi tynnu ei sylw, daeth yn un o'i ddisgyblion, a bedyddiwyd ef ganddo. Wedi hynny efe a welodd yr effaith a gynhyrchwyd gan arddodiad dwylaw, fel y dilynid ef gan yr apostolion Pedr ac Ioan; a chan ei fod yn awyddus i gael awdurdod tebyg iddo ei hun, efe a gynnigiodd swm o arian amdani. Y mae yn amlwg mai ei amcan oedd cymhwyso yr awdurdod at ei alwedigaeth fel swynwr. Yr oedd ei ddiben a'r moddion yn ddrwg, a cheryddwyd ef yn llym gan Bedr. Clo'r stori gydag apêl Simon i Bedr weddïo drosto, o bosib yn fynegiant o'i edifeirwch neu o rediad yr adnod ei ofn un unig.
 
Y darn byr hwn yn Actau'r Apostolion yw'r unig sôn am Simon y dewin yn y canon Beiblaidd, ond stori bwysig ydyw gan iddi nodi tröedigaeth Samaria yn wlad Gristnogol ac felly cyflawni peth o addewid yr Aglwydd yn adnod Actau 1:8. Yn sgil merthyrdod [[Steffan (sant)|Steffan]] a'r erledigaeth a ddaw, aeth Philip i daenu'r efengyl i'r Samariaid. Tanlinellir y llwyddiant ysgubol hwn gan ddisgrifiad y bobl dan gyfaredd Simon, a throdd hyd yn oed y swynwr ei hun i arweinyddiaeth Philip a'r ffydd Gristnogol.<ref>{{eicon en}} [http://www.encyclopedia.com/religion/encyclopedias-almanacs-transcripts-and-maps/simon-magus Simon Magus], ''New Catholic Encyclopedia'' (2003). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 15 Ebrill 2017.</ref> Mae cynnig Simon i brynu'r nerth ysbrydol ac ymateb dig Pedr yn ocheliad yn erbyn llygru'r eglwys drwy bresenoldeb arian, tarddiad y pechod sy'n dwyn ei enw, simoniaeth.
 
== Straeon yr Apocryffa ==
Llinell 44 ⟶ 46:
== Chwedlau'r Oesoedd Canol ==
Roedd straeon Simon yn ddylanwadol yn natblygiad thema'r "fargen â'r [[Diafol]]", motiff poblogaidd ym mytholeg yr Oesoedd Canol. Chwedl Faust yw traethiad enwoca'r stori hon. Bywyd [[Johann Faust]] yw'r cnewyllyn o wirionedd yn y chwedl ond cafodd ei llinyn a'i hagweddau eu siapio gan hanes Simon yn yr Actau, yn ogystal â straeon apocryffaidd am Cyprian o Antioch, Theophilius o Adana, a'r [[Pab Sylvester II]] a dewiniaid eraill yn llên lysaidd Ewrop megis [[Myrddin]] a Klingsor.
 
== Portreadau a dylanwad diwylliannol ==
Simon yw un o'r cymeriadau yn y nofel hanesyddol ''The Silver Chalice'' (1952) gan Thomas B. Costain, a chafodd ei bortreadu gan [[Jack Palance]] yn yr addasiad ffilm (1954).
 
== Cyfeiriadau ==