Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llenyddiaeth y Dadeni"

Lleihawyd o 38 beit ,  2 flynedd yn ôl
B
== Yr Almaen ==
[[Delwedd:Hans_Sachs.jpg|bawd|Hans Sachs.]]
Yr Almaenwr '''[[Johann Gutenberg|Johannes Gutenberg]] '''oedd yn gyfrifol am ddyfeisio'r wasg argraffu ym 1533. Dyma un o'r datblygiadau pwysicaf yn hanes y byd, gan iddo alluogi cyhoeddi llyfrau a dogfennau eraill ar raddfa eang. Tyfodd diwylliant torfol yn Ewrop a chynyddodd y gyfradd [[Llythrennedd|lythrennedd]]. Lledaenodd ysgrifau'r dyneiddwyr ar draws y gwledydd Almaeneg ac eginai meddylfryd beirniadol ymysg y bobl, gan arwain at [[Y Diwygiad Protestannaidd|y Diwygiad Protestannaidd protestante]]. Ymhlith y prif lenorion oedd [[Desiderius Erasmus|Erasmus]], Iseldirwr a drigai yn [[Basel (dinas)|Basel]], a Johannes Reuchlin, er i'r ddau ohonynt ysgrifennu'n Lladin yn bennaf ac felly dim ond yn ddylanwadol ymhlith ysgolheigion. Arferai Erasmus lladd ar gredoau arwynebol a llygredigaeth foesol [[yr Eglwys Gatholig]] yn ei ''Colloquia'', gan ddefnyddio arddull ymgom y rhethregwr a dychanwr Lucianus. Llenorion eraill yn yr un cywair ond yn fwy poblogaidd oedd y bardd Ulrich von Hutten (1488-1523) a'r dychanwr Sebastian Brant (1458-1521), awdur ''Das Narrenschiff''. Darluniwyd y gwaith gan [[Albrecht Dürer]], ac hwn oedd y cyhoeddiad mwyaf boblogaidd yn yr Almaeneg nes ''Die Leiden des jungen Werthers'' gan [[Johann Wolfgang von Goethe|Goethe]].

Mudiad mwyaf drawiadol y cyfnod oedd y Diwygiad Protestannaidd, a gychwynnodd o ganlyniad i ddiwinyddiaeth [[Martin Luther]] (1483-1546). Ysgrifennodd Luther yn iaith y werin, a chyfieithoedd y Beibl i'r Almaeneg gan osod sylfaen i'r iaith lenyddol genedlaethol a sbarduno datblygiad y ffurf Almaeneg fodern. Ar wahân i lenyddiaeth grefyddol, roedd cyfansoddiadu'r ''Meistersingers, ''straeon dychan Schwank, a dramâu'r ''Fastnachtsspiel ''i gyd yn hynod o boblogaidd, yn enwedig gwaith Hans Sachs (1494-1576) a Jörg Wickram (tua 1505-cyn 1562). Awdur arall o'r 16g oedd y dychanwr chwyrn Johann Fischart (1546-1590) o [[Strasbwrg]], a'i gampwaith yw ''Affentheurlich Naupengeheurliche Geschichtklitterung''.
64,470

golygiad