Madagasgar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: clean up
Ychwanegu gwybodaeth (gan ddefnyddio'r erthygl Saesneg fel ffynhonnell)
Llinell 49:
[[Delwedd:Madagascar-carte.png|bawd|de|250px|Madagasgar]]
 
[[Ynys]] a [[cenedl|chenedl]] yng [[Cefnfor India|Nghefnfor India]], oddi ar arfordir dwyrain [[Affrica]], yw '''Gweriniaeth Madagasgar'''. Mae'nr gyngenedl yn cynnwys ynys Madagascar (pedwaredd ynys fwyaf y byd) a nifer o ynysoedd llai cyfagos. Mae Madagascar yn adnabyddus am ei bio-drefedigaethamrywiaeth, gyda 90 y cant o'i [[Ffrainc]]bywyd gwyllt yn unigryw i'r ynys. Mae'r ecosystemau amrywiol a bywyd gwyllt unigryw dan fygythiad o ganlyniad i dwf ym mhoblogaeth yr ynys a bygythiadau amgylcheddol eraill.
 
Mae'r olion dynol cynharaf ar Fadagasgar yn dyddio yn ol i 2000CC. Pobl Austronesaidd oedd y cyntaf i ymsefydlu ar yr ynys gan deithio yno o Borneo rhwng 350CC a 550OC. Ymunodd ymfudwyr Bantu a hwy o gwmpas 1000OC wedi iddynt groesi o ddwyrain Affrica. Daeth grwpiau eraill i'r ynys dros amser a chyfrannu at ffurfio'r diwylliant Malagasy. Mae'r grwp ethnig Malagasy yn aml yn cael ei rannu'n ddeunaw is-grwp, a'r mwyaf o'r rhain yw'r Merina o'r ucheldiroedd canolog.
 
Tan ddiwedd y 18eg ganrif, roedd Madagasgar yn cael ei rheoli gan amrywiaeth o gynghreiriau gwleidyddol gymdeithasol. O ddechrau'r 19eg ganrif, roedd yr ynys yn cael ei rheoli fel teyrnas Madagasgar gan uchelwyr Merina. Dymchwelodd y frenhiniaeth yn 1897 pan ddaeth yr ynys yn rhan o ymerodraeth drefedigaethol Ffrainc, a hynny hyd nes iddi gael ei hannibyniaeth ym 1960. Ers 1992, mae'r genedl wedi ei llywodraethu fel democratiaeth gyfansoddiadol o'i phrifddinas Antananarivo.
 
Mae Madagasgar yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, yr Organisation Internationale de la Francophonie a Chymuned Ddatblygu Affrica Ddeheuol.
 
Yn ol y Cenhedloedd Unedig, mae Madagasgar yn perthyn i grwp o wledydd lleiaf datblygiedig y byd. Mae Malagaseg a Ffrangeg yn ieithoedd swyddogol y wladwriaeth. Mae mwyafrif y boblogaeth yn arddel credoau traddodiadol, Cristnogaeth, neu gyfuniad o'r ddau. Prif elfennau strategaeth datblygu Madagasgar yw ecodwristiaeth, amaethyddiaeth, ynghyd a buddsoddiadau mewn addysg, iechyd a menter breifat.
 
Y cyntaf i sgwennu'r iaith frodorol Malagasi oedd y [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-DAV-1797.html Parch David Jones] a gafodd ei addysg yn Neuadd Lwyd, ger [[Aberaeron]] ac a fu farw yn [[Mawrisiws]] yn 1841.<ref>References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.</ref> Ymsefydlodd yn Antananarivo yn 1820 . Gyda David Griffiths, cyfieithodd y Beibl yn iaith y Malagasy , a chyda chynhorthwy David Johns, cyhoeddodd lyfr sillebu, catecism, ac emyniadur. Gorfu iddo ymadael, eithr parhaodd i ddefnyddio Mawrisiws fel gorsaf i efengyleiddio ohoni a bu farw yno ym mis Medi 1841.