Plaid y Bumed Frenhiniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Grŵp neu "blaid" o grefyddwyr [[Piwritaniaeth|Piwritanaidd]] yng nghyfnod [[Gwerinlywodraeth Lloegr]] a gredai fod y [[MilfwyddiaethMilflwyddiaeth|MilfwyddMilflwydd]] ar wawrio ac y byddai [[Crist]] yn dychwelyd i deyrnasu ar y ddaear oedd '''Plaid y Bumed Frenhiniaeth''' neu'r '''Pumed Frenhinwyr'''. Nid oedd yn [[plaid wleidyddol|blaid wleidyddol]] yn yr ystyr arferol, er bod ei aelodau'n ymwneud â gwleiddyddiaeth y dydd. Bu'r Pumed Frenhinwyr yn ddylanwadol iawn yn [[Lloegr]] yn y cyfnod [[1645]]-[[1649]], ond prin fu eu dylanwad yng Nghymru. Dangosodd y cyfrinydd a llenor o Gymro [[Morgan Llwyd]] gryn gydymdeimlad ag amcanion y blaid, ond ni wyddys i ba raddau y cymerodd ran yn ei gwaith.
 
Tynnai'r Pumed Frenhinwyr eu hysbrydoliaeth a'u credo o lenyddiaeth [[apocolyps|apocolyptaidd]] y [[Beibl]], ac yn enwedi o lyfrau [[Llyfr Daniel|Daniel]] a'r [[Llyfr y Datguddiad|Datguddiad]]. Credent fod hanes y byd yn ymrannu'n bum cyfnod yn ôl goruchafiaeth pum [[teyrnas]], sef [[Asyria]], [[Ymerodraeth Persia]], [[Groeg yr Henfyd|Groeg]] a'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]: Teyrnas Crist ar y Ddaear fyddai'r bumed a'r olaf. Credent y byddai'n dechrau yn y flwyddyn [[1666]] ([[666 (rhif)|666]] yw Rhif y Bwystfil yn Llyfr y Datguddiad).