Cymdeithas Genhadol Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 2:
 
==Hanes==
Yn 1793, ysgrifennodd [[Edward Williams (diwinydd ac athro Annibynnol)|Edward Williams]], a oedd yn weinidog yn Carr's Lane, [[Birmingham]], lythyr at eglwysi canolbarth Lloegr yn mynegi'r angen i efengylu a chenhadu mewn rhannau eraill o'r byd. Bu'n effeithiol a cymerodd Williams ran flaenllaw yn y cynlluniau i sefydlu cymdeithas genhadol. Symudodd i Masbrough, [[Rotherham]], yn 1795 i fod yn weinidog a thiwtor ar academi newydd Masbrough. Hefyd yn 1793, sefydlodd y clerigwr Anglicanaidd John Eyre yr ''[[Evangelical Magazine]]'' gyda chefnogaeth y Presbyteriad John Love a'r cynulledifaolwyr Edward Parsons a John Townshend.
 
Cynigiwyd sefydlu'r Gymdeithas Genhadol yn 1794 wedi i weinidog gyda'r Bedyddwyr, [[John Ryland]], dderbyn gair gan [[William Carey]], y cenhadwr o Fedyddiwr a oedd wedi ymfudo i Calcutta, ynghylch yr angen i ledaenu [[Cristnogaeth]]. Awgrymodd Carey bod Ryland yn cydweithio gydag unigolion o enwadau eraill yn yr un modd ag yr oedd y Gymdeithas Wrth-gaethwasiaeth wedi gweithio er mwyn goresgyn yr anawsterau a wynebwyd wrth geisio sefydlu meysydd cenhadol mewn gwledydd eraill. Bu enwadaeth yn rhwystr i godi arian i sefydlu cenhadaeth gynaliadwy, er enghraifft.