Teyrnas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

tudalen wahaniaethu Wikimedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Gwlad neu wladwriaeth a reolir gan brenin (''teyrn'') neu frenhines neu sydd â brenin neu frenhines yn bennaeth y wladwriaeth yw '''teyrnas'''. Nid yw teyrn...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:26, 10 Rhagfyr 2007

Gwlad neu wladwriaeth a reolir gan brenin (teyrn) neu frenhines neu sydd â brenin neu frenhines yn bennaeth y wladwriaeth yw teyrnas. Nid yw teyrnas yn gyfystyr â gwlad o reidrwydd; mae'r Deyrnas Unedig yn cynnwys tair gwlad (Yr Alban, Cymru a Lloegr) ac un dalaith (Gogledd Iwerddon), er enghraifft; cafodd ei chreu trwy goncwest a chyfuno teyrnas Lloegr a theyrnas yr Alban.

Cymru

Yng Nghymru cafwyd sawl teyrnas yn y gorffennol; erbyn yr Oesoedd Canol roedd tair teyrnas yn y wlad, a elwir yn Dair Talaith Cymru, sef teyrnas Deheubarth, teyrnas Gwynedd a theyrnas Powys. Llwyddodd rhai o frenhinoedd y teyrnasoedd hyn i uno'r rhan fwyaf o'r wlad a'i rheoli - e.e. Hywel Dda, Rhodri Mawr, Gruffudd ap Llywelyn, Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd - ond ni pharhaodd yr undod yn ddigon hir i Gymru fel gwlad dyfu'n deyrnas sefydlog.

Gweler hefyd


 

 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.