Cigfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 5 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1091866 (translate me)
Llinell 3:
Cyfeirir at Gigfa ar ddiwedd y Gainc Gyntaf, [[Pwyll Pendefig Dyfed]]. Ar ôl marwolaeth ei dad mae Pryderi yn ehangu terfynau ei deyrnas i gynnwys [[Seisyllwg]] ac yn mynnu cael gwraig. Ei ddewis yw 'Cigfa, ferch [G]wyn Gohoyw, fab Gloyw Walltlydan, fab [[Casnar|Casnar Wledig]]'.<ref>Ifor Williams (gol.), ''Pedair Cainc y Mabinogi'' (Caerdydd, 1937; sawl arg. arall), t. 27.</ref>
 
Ni cheir sôn amdani wedyn tan y Drydedd Gainc. Mae Pryderi yn gwahoddigwahodd ei gyfaill ffyddlon [[Manawydan]] i briodi ei fam weddw [[Rhiannon]], sy'n hardd o hyd, a byw gydag ef a Chigfa yn Nyfed. Ond cyn bo hir mae rhyw [[hud]] dinistriol yn syrthio ar y deyrnas sy'n troi'n anialdir diffrwyth; diflanna pawb ac eithrio Pryderi, Cigfa, Manawydan a Rhiannon. Un diwrnod, wrth hela, mae Pryderi yn dilyn [[twrch]] gwyn (lliw anifeiliaid yr [[Arallfyd]] Celtaidd, fel yn achos helgwn [[Arawn]]) ac yn mynd ar goll. Â Rhiannon i chwilio amdano. Daw o hyd iddo yn eistedd yn llonydd wrth ymyl adeilad diarth a'i ddwylo ar [[pair|bair]] euraidd ac wrth geisio ei ryddhau mae hithau yn cael fod ei dwylo'n ynghlwm wrth y pair ac yn methu symud. Erys Manawydan a Cigfa gyda'i gilydd a llwyddant o'r diwedd i ryddhau Rhiannon a Pryderi ar ôl iddynt dal lleidr yn rhith llygoden feichiog sy'n troi allan i fod yn wraig [[Llwyd fab Cil Coed]], gelyn Rhiannon. Ar ôl iddynt bygwth crogi'r llygoden mae Llwyd yn codi'r hud oddi ar y wlad ac yn rhyddhau Pryderi a'i fam.
 
Cafwyd sawl cais i esbonio enw Cigfa. Yn Iwerddon ceir [[duwies]] Geltaidd o'r enw ''Cichmuine'' a gysytllir â dŵr ac mae ''cic-'' yn rhan o saw enw arall yn ogystal, e.e. Nant Cichmann. Mae'n bosibl mai "cig" yw'r ''cig-'' yn ei henw. Posiblrwydd arall yw ei fod yn gytras â'r gair [[Gwyddeleg]] ''cích'' "bron" (mae ''bron'' ei hun yn digwydd mewn enwau ar ferched, e.e. Bronwen). Yn chwedlau Iwerddon ceir merch neu dduwies o'r enw ''Ciochba'' sy'n wraig i un o'r [[Partholon]] (dyna'r unig gyfeiriad ati). Mae [[William John Gruffydd|W. J. Gruffydd]] yn dadlau fod cymeriad Cigfa yn ychwanegiad diweddarach i'r chwedl yn y Pedair Cainc.<ref>W. J. Gruffydd, ''Rhiannon'' (Caerdydd, 1953), t. 77.</ref>