Hanes Affrica: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
addasu a chreu eginyn
 
trefnu
Llinell 1:
Dechreua '''hanes Affrica''' gyda'r bodau dynol cyntaf a'u rhagflaenwyr ac felly ar sawl ystyr gellid ystyried [[cyfandir]] [[Affrica]] fel crud y ddynolryw. Mae wedi bod yn gartref i sawl [[gwareiddiad]] a [[diwylliant]] dros y canrifoedd.
 
==Cynhanes==
{{Prif|Cynhanes Affrica}}
Mae Affrica yn gartref i'r [[Crud Dynolryw|tir cyfannedd hynaf]] ar y ddaear, ac mae'r [[bod dynol|hil ddynol]] yn tarddu o'r cyfandir yma. Yn ystod blynyddoedd canol yr [[ugeinfed ganrif]], darganfu [[anthropoleg]]wyr nifer o [[ffosil]]au a thystiolaeth o weithgaredd ddynol, mor gynnar â 7 miliwn o flynyddoedd yn ôl, efallai. Darganfu'r teulu [[Leakey]] enwog (sydd â chysylltiadau â Phrydain ag Affrica), gweddillion ffosilaidd nifer o rywogaethau o fodau dynol cynnar, oedd yn debyg i [[epa]]od, megis ''[[Australopithecus afarensis]]'' (wedi'i ddyddio'n radiometregol i 3.9-3.0 miliwn o flynyddoedd [[Cyn Crist|CC]]), ''[[Paranthropus boisei]]'' (2.3-1.4 miliwn CC) a ''[[Homo ergaster]]'' (c. 600,000-1.9 miliwn CC). Credir eu bod wedi [[esblygiad|esblygu]]'n ddyn modern. Mae'r rhain yn ddarganfyddiadau pwysig yn astudiaeth [[esblygiad dynol]].
 
==Gwareiddiaid hynafol==
[[Delwedd:Ark_of_the_Covenant_church_in_Axum_Ethiopia.jpg|250px|bawd|Eglwys Arch y Cyfamod yn [[Axum]], [[Ethiopia]]]]
Datblygodd Affrica nifer o wareiddiaid unigryw, er enghraifft gwareiddiad yr [[Hen Aifft]] a [[Kush]], [[Ethiopia]], [[Zimbabwe Fawr]], [[ymerodraeth Mali]] a theyrnasoedd y [[Maghreb]].
 
==Cyfnod Modern==
Yn [[1482]], sefydlodd y [[Portiwgal|Portiwgaliaid]] y gyntaf o nifer o orsafoedd masnachu ar hyd arfordir [[Guinea]], yn [[Elmina]]. Y prif nwyddau a fasnachwyd oedd [[Caethwas|caethweision]], [[aur]], [[ifori]] a [[sbeis]]iau. Cafodd darganfyddiad [[America]] yn [[1492]] ei ddilyn gan ddatblygiad mawr yn y [[fasnach caethweision]].